Ysgol Gynradd Parc Ninian
Ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg yn ardal Grangetown, Caerdydd ydy Ysgol Gynradd Parc Ninian (Saesneg: Ninian Park Primary School).
Ysgol Gynradd Parc Ninian | |
---|---|
Ninian Park Primary School | |
Arwyddair | We all smile in the same language[1] |
Sefydlwyd | 1900 (ysgol gynradd ers 1968) |
Math | Cynradd, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Saesneg |
Pennaeth | Mrs Ferne M Davies |
Lleoliad | Virgil Street, Grangetown, Caerdydd, Cymru, CF11 8TF |
AALl | Cyngor Caerdydd |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 3–11 |
Gwefan | http://ninianparkprm.cardiff.sch.uk |
Hanes
golyguSefydlwyd Ysgol Gynradd Parc Ninian ar 30 Tachwedd 1900, pan agorwyd fel ysgol letya dan yr enw Virgil Street Board School. Newidiwyd yr enw ym mis Hydref 1911 i Ninian Park Council School, ar ôl Parc Ninian, cartref C.P.D. Dinas Caerdydd sydd wedi ei leoli gyferbyn â'r ysgol.[2]
Defnyddiwyd yr ysgol fel ysbyty milwrol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a mynychodd disgyblion yr ysgol Ysgol Court Road yn rhan amser rhwng 1914 ac 1918. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, rhwng 1939 ac 1941, cafodd yr ysgol ei wacáu sawl gwaith oherwydd bomio yn yr ardal.[1]
Ym 1948, daeth Ninian Park Council School yn ysgol uwchradd ar gyfer bechgyn, gyda ysgol uwchradd ar gyfer merched, Grange Council School, yn cael ei agor yr un pryd.[1]
Agorodd y dosbarth cyfrwng Cymraeg gyntaf yn Sir Forgannwg yn yr ysgol ym 1949, gyda ond wyth o ddisgyblion.[1]
Agorwyd Ysgol Uwchradd Fitzalan ym 1968, a daeth ysgol Parc Ninian yn ysgol gynradd.[1]
Sefydlwyd ysgol gynradd Gymraeg Ysgol Tan-yr-Eos mewn rhan o'r adeilad yn 2006, erbyn 2009, roedd yr ysgol Gymraeg yn defnyddio pedwar dosbarth.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 School Details: Ninian Park Primary School. Cyngor Caerdydd. Adalwyd ar 3 Chwefror 2010.
- ↑ History of the School. Ysgol Gynradd Parc Ninian.
- ↑ ADRODDIAD CYFFREDINOL Y LLYWODRAETHWYR I RIENI 2008-2009. Ysgol Gymraeg Treganna (2009).