Ysgol Uwchradd Cei Connah
Ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg yng Nghei Connah, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint ydy Ysgol Uwchradd Cei Connah (Saesneg: Connah's Quay High School). Mae'n gwasanaethu disgyblion rhwng 11 ac 18 oed, roedd 1047 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2008.[1]
Ysgol Uwchradd Cei Connah | |
---|---|
Connah's Quay High School | |
Arwyddair | We care Gofalwn |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Saesneg |
Pennaeth | Mr Gregory Dixon |
Dirprwy Bennaeth | Mr L Cummins |
Cadeirydd | Y cynghorydd R Hill |
Lleoliad | Lôn Golftyn, Cei Connah, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, Cymru, CH5 4BH |
AALl | Sir y Fflint |
Staff | 62 (2008)[1] |
Disgyblion | 1047 (2008)[1] |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Gwefan | http://moodle.flintshire.gov.uk/connahsquay/ |
Mae'r ysgol yn rhan o Gonsortiwm Glannau Dyfrdwy sy'n rhannu addysg chweched ddosbarth.[2]
Gwariwyd £2.3 miliwn yn adeiladu adain newydd wyddoniaeth a cherddoriaeth a orffenwyd yn 2002, wedi cynllun dwy flynedd a fu hefyd yn ymestyn ac adnewydddu'r hen adeiladau. Agorwyd yn swyddogol gan y Tywysog Andrew, Dug Caerefrog, amharwyd ar y seremoni pan ganodd y larwm tân, a achswyd gan wrn tê poeth, gadawodd y tywysog yn ei hofrennydd yn fuan wedyn.[3]
Cyn-ddisgyblion o nôd
golygu- Ben Jones - pêl-droediwr
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Prosbectws 2008–2009. Uwchradd Cei Connah.
- ↑ Connah's Quay High School. goodschoolsguide.co.uk.
- ↑ Prince flees school in fire alert. BBC (24 Hydref 2002).
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Uwchradd Cei Connah Archifwyd 2010-02-04 yn y Peiriant Wayback