Ysgol Uwchradd Fitzalan

Ysgol uwchradd gymunedol cyfrwng Saesneg yn ardal Lecwydd, Caerdydd ydy Ysgol Uwchradd Fitzalan (Saesneg: Fitzalan High School). Y brifathrawes presennol ydy Mrs Cath Bradshaw.[1]

Ysgol Uwchradd Fitzalan
Fitzalan High School
Sefydlwyd 1968
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Saesneg
Pennaeth Mrs Cath Bradshaw
Lleoliad Rhodfa Lawrenny, Lecwydd, Caerdydd, Cymru, CF11 8XB
AALl Cyngor Dinas Caerdydd
Disgyblion dros 1500
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Gwefan http://www.fitzalan.cardiff.sch.uk

Mae dros 1500 o ddisgyblion rhwng 11 ac 18 oed yn yr ysgol, ac mae'n un o ysgolion mwyaf aml-ddiwylliannol y Deyrnas Unedig. Y prif ysgolion yn y dalgylch yw ysgolion cynradd Kitchener, Radnor, Lansdowne, Severn Road, Parc Ninian, St. Mary the Virgin, Trelluest ac Ysgol Gynradd Mount Stuart.

Hanes golygu

Sefydlwyd Ysgol Uwchradd Fitzalan ym 1968, gan gymryd lle Ysgol Sirol Parc Ninian a drodd yn ysgol gynradd.[2]

Ym 1982, enillodd dîm pêl-droed yr ysgol Cwmpan yr English Schools Football Association, y tro cyntaf erioed i'r cwpan gael ei ennill gan dîm o du allan i Loegr.[3]

Defnyddiwyd neuadd yr ysgol ar gyfer ffilmio pennod School Reunion o gyfres ffuglen wyddonol Doctor Who, a ddarlledwyd gyntaf ar 29 Ebrill 2006.[4] Ffilmwyd rhaglen ddogfen BBC2, "Fitzalan — School of Dreams" ym mis Mawrth 2006, yn dangos sut mae'r disgyblion yn llwyddo'n dda yn yr ysgol.[4]

Cyfleusterau golygu

Yn 2007, dechreuodd yr ysgol raglen er mwyn lleihau eu ôl-troed carbon wedi iddynt gael eu arolygu han y Carbon Trust. Cymerwyd camau iw leihau gan gynnwys gosod cyfrifiaduron "eco-ddistaw", caiff un ohonynt ei redeg gan dyrbin gwynt.[5]

Chwaraeon golygu

Adnewyddyd pwll nofio 20 medr yr ysgol ar gost o £300,000, enwyd yn Bwll Nofio Peter Perkiner er mwyn coffa cyn-gadeirydd y llywodraethwyr. Agorodd y pwll yn swyddogol ym mis Mawrth 2009. Mae'r cyfleusterau hefyd ar agor i'r cyhoedd wedi oriau ysgol. Fel rhan o'r cynllun hwn sy'n bartneriaeth rhwng Cyngor Chwaraeon Cymru, tîm Cymunedau ar Waith Cyngor Dinas Caerdydd a'r ysgol ei hun, trowyd hen ddosbarth na ddefnyddwyd yn ganolfan cadw'n heini gyda multi-gym.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1.  School Details: Fitzalan High School. Cyngor Caerdydd. Adalwyd ar 2010-01-23.
  2.  History of the School. Ysgol Gynradd Parc Ninian.
  3.  Fitzalan did city proud in beating best of England. Fitzalan High School. Adalwyd ar 2010-01-23.
  4. 4.0 4.1  10 Facts You May Not Know About Fitzalan. Fitzalan High School. Adalwyd ar 2010-01-23.
  5.  High school kicks off city’s ambitious plan. Western Mail (2007-06-28).
  6.  Fitzalan Makes a Splash With New Facilities. Sports Council Wales (2009-03-12).

Dolenni allanol golygu