Ysgol Uwchradd Gatholig Mair Ddihalog

Ysgol uwchradd gyfun wirfoddol, cyfrwng Saesneg, yn ardal Gwenfô, Caerdydd ydy Ysgol Uwchradd Gatholig Mair Ddihalog (Saesneg: Mary Immaculate Roman Catholic High School), sy'n gwasanaethu plant rhwng 11 ac 16 oed yng ngorllewin y brifddinas.

Ysgol Uwchradd Gatholig Mair Ddihalog
Mary Immaculate Roman Catholic High School
Arwyddair Achieving the best for all in a Catholic learning community
Ystyr yr arwyddair Llwyddo y gorau oll ar gyfer pawb yn y gymuned addysgol Gatholig
Sefydlwyd 1987
Math Cyfun, Gwirfoddol
Cyfrwng iaith Saesneg
Crefydd Catholig
Pennaeth Mr David Stone
Lleoliad Lôn Caerau, Gwenfô, Caerdydd, Cymru, CF5 5QZ
AALl Cyngor Dinas Caerdydd
Disgyblion 654[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–16
Gwefan http://www.maryimmaculate.org.uk

Hanes golygu

Mae ysgol Gatholig yn bodoli ar y safle ers 1963, pan agorwyd ysgol uwchradd fodern ar safle ysgol uwch Mair Ddihalog, sef Ysgol Gatholig yr Archegob Mostyn (Archbishop Mostyn Roman Catholic School), oedd yn ysgol gymysg. Tyfodd yr ysgol a bu'n rhaid canfod mwy o le, a throsglwyddwyd rhan o'r ysgol i gyn-safle Ysgol Fechgyn Cyntwell. Datblygwyd yr ysgol felly ar ddwy safle 400 llath oddi wrth ei gilydd, a thanlinellwyd gwahanrwydd y ddwy safle pan agorwyd ffordd gysylltu'r A4232 rhwng y ddwy.

Sefydlwyd yr ysgol fel y mae hi heddiw ym 1987, yn dilyn ailstrwythro addysg uwchradd Gatholig yn Ne Morgannwg, sef yr awdurdod lleol ar y pryd. Agorwyd yr ysgol ar ei newydd wedd fel ysgol gyfun Gatholig. Yn 1996, gwerthwyd y safle isaf (cyn-safle Ysgol Fechgyn Cyntwell), a datblygwyd tai arni, ei henw erbyn hyn ydy St. Mary's Field. Ail-ddatblygwyd yr ysgol yn sylweddol ar y safle uwch, ac agorwyd yr adeiladau newydd yn swyddogol gan Rhodri Morgan ym mis Gorffennaf 2002.

Heddiw golygu

Arwyddair yr ysgol ydy "Achieving the best for all in a Catholic learning community", a strwythurir y dysgu o amgylch y cyd-destun hwn. Mae 90% o'r disgyblion yn Gatholig, a daw 90% ohonynt o'r prif ysgolion cynradd sydd mewn partneriaeth ag ysgol Mair Ddihalog, sef ysgolion cynradd Catholig y Santes Fair, Sant Francis, Sant Cuthbert ac Ysgol Gynradd Gatholig Padrig Sant.

Roedd 654 o ddisgyblion yn yr ysgol yn ystod arolygiad Estyn yn 2015. Siaradai'r rhan fwyaf Saesneg fel iaith gyntaf, a doedd dim o'r disgyblion yn siarad Cymraeg yn rhugl.[1]

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu