Ysgol Uwchradd Penarlâg
Ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg ym Mhenarlâg, Sir y Fflint ydy Ysgol Uwchradd Penarlâg (Saesneg: Hawarden High School). Mae'n gwasanaethu disgyblion rhwng 11 ac 18 oed. Roedd 1,114 o ddisgyblion yn yr ysgol yn ystod arolygiad Estyn 2009, gan gynnwys 181 yn y chweched ddosbarth. Mae gan yr ysgol ormod o ddisgyblion ac mae’r chweched dosbarth tuag 20% yn fwy nag adeg yr arolygiad diwethaf yn 2003.[1]
Ysgol Uwchradd Penarlâg | |
---|---|
Hawarden High School | |
Sefydlwyd | 1606 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Saesneg |
Pennaeth | Mr Roger J. Davies M.A., NPQH |
Dirprwy Bennaeth | Mr. Paul Ellis |
Lleoliad | Yr Highway, Penarlâg, Sir y Fflint, Cymru, CH5 3JD |
AALl | Sir y Fflint |
Disgyblion | 1,114[1] |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Lliwiau | Du |
Gwefan | http://moodle.flintshire.gov.uk/hawarden/ |
Gellir olrhain hanes yr ysgol yn ôl i 1606 pan sefydlwyd ysgol ramadeg gydag un ystafell gyda £300 a adawyd mewn ewyllys gan drigolyn lleol, sef George Ledsham.
Cwblhawyd ymestyniad ym 1998, a gostiodd £4 miliwn, gan gynnwys neuadd newydd, ymestyniad i'r ganolfan chwaraeon, ymestyniad i'r adran dechnoleg a stiwdio ddawns newydd yn ogystal â nifer o welliannau eraill. Agorwyd yr ymestyniad yn swyddogol gan Ei Mawrhydi Elizabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig ym mis Mawrth 1998.
Cyn-ddisgyblion o nod
golygu- Andy Dorman - pêl-droediwr
- Michael Owen - pêl-droediwr
- Gary Speed - pêl-droediwr
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Adroddiad arolygiad Ysgol Uwchradd Penarlâg Tachwedd 2009. Estyn (14 Ionawr 2010).
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Ysgol Uwchradd Penarlâg Archifwyd 2007-09-28 yn y Peiriant Wayback