Ystadegaeth ddisgrifiadol

(Ailgyfeiriad o Ystadegaeth ddisgrifiol)

Mae ystadegyn ddisgrifiadol yn ystadegyn sy'n disgrifio neu'n crynhoi nodweddion casgliad o wybodaeth feintiol e.e. ystadegau, data. Ystadegath ddisgrifiadol yw'r broses o ddefnyddio ac analeiddio'r ystadegau hyn.[1]

Gwahaniaethir rhwng ystadegaeth ddisgrifiadol ac ystadegaeth gasgliadol (inferential) yn ôl bwriad neu amcan:

  • ystadegaeth ddisgrifiadol - crynhoi casgliadau neu sampl
  • ystadegaeth gasgliadol - defnyddio'r data i ddysgu am y boblogaeth a gynrychiolir (neu beidio!) gan y data.

Mae hyn, yn gyffredinol, yn golygu nad yw ystadegaeth ddisgrifiadol (yn wahanol i ystadegau gasgliadol) yn cael ei datblygu ar sail theori tebygolrwydd.[2] Ond pan ddefnyddir ystadegaeth gasgliadol i ddadansoddi data, mae ystadegau disgrifiadol hefyd yn cael eu cyflwyno. Er enghraifft, mewn papurau ar bynciau dynol, fel arfer, mae tabl wedi'i gynnwys gan roi maint y sampl, maint y sampl mewn is-grwpiau allweddol a nodweddion demograffig neu glinigol megis yr oedran cyfartalog, rhyw, cyfrifoldebau ac ati.

Ymhlith y mesuryddion a ddefnyddir yn aml i ddisgrifio set o ddata mae:

  • mesuryddion canolduedd (central tendency), gan gynnwys cymedr, canolrif a modd
  • mesuryddion amrywiant (measures of variability) neu wasgariad ystadegol, gan gynnwys gwyriadau safonol (neu "amrywiant"), gwerthoedd isafswm ac uchafswm y newidynnau, cwrtosis a sgiwedd.[3].[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Mann, Prem S. (1995). Introductory Statistics (arg. 2nd). Wiley. ISBN 0-471-31009-3.
  2. Dodge, Y. (2003). The Oxford Dictionary of Statistical Terms. OUP. ISBN 0-19-850994-4.
  3. Daw'r rhan fwyaf o'r termau Cymraeg yn yr erthygl hon (fel eraill ar Wicipedia) o Eiriadur Bangor, Prifysgol Bangor
  4. Investopedia, Descriptive Statistics Terms