Zygmunt Krasiński

Bardd a dramodydd Pwylaidd oedd Zygmunt Krasiński (Napoleon Stanisław Adam Ludwik Zygmunt Krasiński; 19 Chwefror 181223 Chwefror 1859). Gyda Adam Mickiewicz a Juliusz Słowacki, fe'i adnabyddir yn un o'r Tri Bardd (Pwyleg: Trzej Wieszcze) gwychaf yn y cyfnod Rhamantaidd yn llên Gwlad Pwyl. Cafodd ei eni yn Ffrainc, a threuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn alltud o Wlad Pwyl; er hynny, cenedlaetholwr Pwylaidd a Slafgarwr pybyr ydoedd, ac mae ei waith yn ymwneud â thynged hanesyddol ei famwlad yn ogystal â chyflwr y ddynolryw yn gyffredinol.

Zygmunt Krasiński
Portread o Zygmunt Krasiński gan Ary Scheffer (1850).
FfugenwLe poète anonyme de la Pologne Edit this on Wikidata
GanwydNapoleon Stanisław Adam Feliks Zygmunt Krasiński Edit this on Wikidata
19 Chwefror 1812 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Bu farw23 Chwefror 1859 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc, Ymerodraeth Rwsia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Uniwersytet Warszawski Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, dramodydd, athronydd Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadGeorg Hegel, Walter Scott, Friedrich Schelling, George Gordon Byron, Bronisław Trentowski, August Cieszkowski Edit this on Wikidata
TadWincenty Krasiński Edit this on Wikidata
MamMaria Urszula Krasińska Edit this on Wikidata
PriodEliza Krasińska Edit this on Wikidata
PlantWładysław Krasiński, Maria Beatrix Krasińska Edit this on Wikidata
LlinachKrasiński family Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ef i deulu o'r bendefigaeth Bwylaidd, y szlachta, ym Mharis yng nghyfnod yr Ymerodraeth Napoleonaidd. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Warsaw cyn iddo deithio i Genefa ym 1829. Byddai ei dad, y Cownt Wincenty Krasiński, yn gwasanaethu'r Tsar Niclas I yng Ngwlad Pwyl y Gyngres, ac yn cefnogi Ymerodraeth Rwsia yn erbyn y Pwyliaid yng Ngwrthryfel Tachwedd 1830.

Ei ddwy ddrama bwysicaf ydy'r trasiedïau Nieboska komedia ("Y Gomedi Annwyfol", 1835), sy'n portreadu rhyfel dosbarth yn y dyfodol, ac Irydion (1836), aralleg glasurol o hanes ei wlad sydd yn cyfnewid y Groegiaid am y Pwyliaid a'r Ymerodraeth Rufeinig am Ymerodraeth Rwsia. Ei gerdd enwocaf yw Przedświt ("Gwawr", 1843), sydd yn ymwneud â rhaniadau Gwlad Pwyl yn niwedd y 18g.

Cyhoeddodd y mwyafrif o'i weithiau yn ddi-enw yn ystod ei oes. Bu farw Zygmunt Krasiński ym Mharis yn 47 oed.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Zygmunt Krasiński. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Chwefror 2022.