Juliusz Słowacki
Bardd a dramodydd o Wlad Pwyl oedd Juliusz Słowacki (4 Medi 1809 – 3 Ebrill 1849). Gyda Adam Mickiewicz a Zygmunt Krasiński, fe'i adnabyddir yn un o'r Tri Bardd (Pwyleg: Trzej Wieszcze) gwychaf yn y cyfnod Rhamantaidd yn llên Gwlad Pwyl.
Juliusz Słowacki | |
---|---|
Portread o Juliusz Słowacki gan James Hopwood yr Ieuaf | |
Ganwyd | 4 Medi 1809 Kremenets |
Bu farw | 3 Ebrill 1849 Paris |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, Brenhiniaeth Gorffennaf, yr Ail Weriniaeth Ffrengig, Gwlad Pwyl |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, diplomydd, cyfieithydd, dramodydd, llenor, athronydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Kordian, Balladyna |
Prif ddylanwad | Andrzej Towiański, Adam Mickiewicz, Jakub Wujek |
Tad | Euzebiusz Słowacki |
Mam | Salomea Slowacka |
Llinach | Q63531221 |
llofnod | |
Ganed ef yn Kremenets yn Llywodraethiaeth Volyn, Ymerodraeth Rwsia. Penodwyd ei dad, Euzebiusz Słowacki, yn athro rhethreg a barddoniaeth ym Mhrifysgol Ymerodrol Vilnius ym 1811. Astudiodd Juliusz y gyfraith ym Mhrifysgol Ymerodorol Vilnius o 1825 i 1828. Aeth i Warsaw, prifddinas Gwlad Pwyl y Gyngres, ym 1829 ac yno cafodd swydd yn y trysorlys. Yn sgil Gwrthryfel Tachwedd 1830, ymunodd â'r corfflu diplomyddol yn y llywodraeth chwyldroadol dan yr Arlywydd Adam Jerzy Czartoryski. Aeth i Dresden (Teyrnas Sachsen), Paris (Teyrnas Ffrainc), a Llundain (Teyrnas Prydain Fawr ac Iwerddon), fel negesydd ar ran Czartoryski mae'n debyg, cyn i'r gwrthryfel fethu yn Hydref 1831.
Treuliodd Słowacki y cyfnod 1833–35 yn y Swistir, ac ym 1836, pan oedd yn yr Eidal, cyfansoddodd ei gerdd eidylaidd W Szwajcarii ("Yn y Swistir", cyhoeddwyd 1839). Teithiodd i'r Dwyrain Canol ym 1837–38, ac ysgrifennai cerdd draethiadol yn disgrifio'i brofiadau, a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth dan y teitl Podróż do ziemi świętej z Neapolu ("Taith i'r Wlad Sanctaidd o Napoli", 1866).[1] Wedi hynny, treuliodd Słowacki y rhan fwyaf o'i alltudiaeth ym Mharis, ac yno y bu farw o'r ddarfodedigaeth yn 39 oed.
Ymhlith ei weithiau eraill mae'r gerdd brôs Anhelli (1838) a'r gerdd athronyddol Król-Duch (1847) a ysbrydolwyd gan Ddwyfol Gân Dante. Mae nifer o'i ddramâu yn tynnu ar hanes Gwlad Pwyl neu hen chwedlau, ac yn ymwneud â'r gwrthdaro rhwng y drwg a'r da. Maent yn cynnwys Balladina (1834), Hotsztynski (1835), Lilla Weneda (1840), Sen srebrny Salomei (1844), a Fantazy (1843). Gwerthfawrogir Słowacki hefyd am ei lythyrau at ei fam o'i gyfnod ym Mharis, a ystyrir yn esiamplau gwych o ryddiaith Bwyleg.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Juliusz Słowacki. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Chwefror 2021.