Llywelyn Ddu ab y Pastard

bardd

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Llywelyn Ddu ab y Pastard (bl. ail chwarter y 14g).

Llywelyn Ddu ab y Pastard
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd14 g Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Prin yw ein gwybodaeth amdano. Priododd ei ferch Angharad David Hanmer, a chawsant blentyn: Margaret Hanmer a briododd Owain Glyn Dŵr, Tywysog Cymru.[1]

Rydym yn dibynnu yn llwyr ar dystiolaeth ei gerddi a'i enw anghyffredin am ein gwydobaeth am Llywelyn Ddu ab y Pastard. Nid oedd y term bastard yn golygu 'plentyn siawns' o reidrwydd. Yn ôl Cyfraith Hywel ceid sawl lefel o briodas ac mae'n bosibl mae'r ffaith nad arddelwyd Llywelyn yn aer gan ei dad yw'r rheswm am y term yn yr achos hwn (ceir sawl enghraifft arall o'r term 'bastard' fel rhan o lysenw heb iddo fod yn derm difrïol fel heddiw). Yn ei gerddi cyfeiria'r bardd at Lyn Aeron, Ceredigion a Llawhaden, Sir Benfro; rhydd y bardd bwyslais arbennig ar y cyntaf ac felly mae'n bosibl ei fod yn frodor o'r ardal honno yn ne Ceredigion.[1]

Cerddi golygu

Cedwir dwy gerdd gan y bardd. Mae un yn awdl farwnad i deulu Trefynor, Mebwynion; awgrymwyd mai'r Pla Du a'u lladdodd. Mae'r ail gerdd yn ddychan i ŵr o'r enw Madog ap Hywel a'i osgordd. Ceir y testunau yn Llyfr Coch Hergest.[2]

Llyfryddiaeth golygu

  • Ann Parry Owen (gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996). ISBN 0-947531-39-4

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Ann Parry Owen (gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996). Rhagymadrodd.
  2. Ann Parry Owen (gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996).