Bleddyn Ddu

bardd

Bardd o Fôn oedd Bleddyn Ddu (bl. 1330 - 1385), a adnabyddid hefyd fel Bleddyn Ddu Was y Cwd. Un o Feirdd yr Uchelwyr a gadwai at ddull traddodiadol y Gogynfeirdd ydoedd.

Bleddyn Ddu
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1200 Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ceir peth ansicrwydd am yr enw 'Bleddyn Ddu Was y Cwd' ond credir ar sail cyfatebiaethau geirfa, cystrawen, ac ati y cerddi a briodolir iddo mai enw arall ar Fleddyn Ddu ydyw. Cysylltir y "ddau" â Môn hefyd.

Hanai hynafiaid Bleddyn Ddu o gwmwd Menai ym Môn. Enw ei fab, yn ôl pob tebyg, oedd Ieuan ap Bleddyn Ddu. Canodd Hywel Ystorm gerdd ddychanol i Fleddyn Ddu sy'n cyfeirio at y ffaith ei fod yn un o'r Monwysion. Cyfeirir ato hefyd yng ngwaith Gruffudd Gryg, Dafydd ap Gwilym a Gruffudd Llwyd ap Dafydd ab Einion Llygliw. Fel bardd a glerai yn gyson am nawdd yn nhai uchelwyr ar hyd a lled gogledd Cymru y disgrifir Bleddyn gan ei gyd-feirdd. Mae'n bosibl fod y 'Cwd' yn ei lysenw yn cyfeirio at y bag a gariai wrth glera, ond mae'n bosibl fod arwyddocad rhywiol i'r gair hefyd.

Cerddi golygu

Cedwir chwe awdl o'i waith, pump ohonynt yn gerddi crefyddol ac un yn awdl farwnad i'r uchelwr Goronwy ap Tudur Hen o Drecastell, un o Duduriaid Môn. Ceir yn ogystal nifer o englynion ar destunau amrywiol, yn cynnwys englynion dychan ac ymryson â'r bardd Conyn Coch.

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu