Robert ab Ifan

prydydd ac uchelwr

Roedd Robert ab Ifan neu Robert ab Ieuan neu Robert Ifans yn fardd Cymraeg ac uchelwr o Frynsiencyn, Ynys Môn, a flodeuodd rhwng 1572 a 1603.[1]

Robert ab Ifan
Ganwyd16 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1572, 1603 Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaMysoglen Edit this on Wikidata

Trigai ei noddwyr ym Môn a sir Ddinbych. Cyfansoddodd yn bennaf ar ôl ail Eisteddfod Caerwys (1567) ond ei waith mwyaf diddorol yw'r cyfresi o englynion o'i eiddo, er enghraifft y rhai ar achlysur daeargryn ar 26 Chwefror 1575. Gwnaeth gopi o gynnwys gramadeg y beirdd 1587 ac ysgrifennodd hanes Cyfundrefn y Beirdd gan dystio i'r amarch cynyddol a ddioddefai beirdd proffesiynol ei gyfnod.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd 1997).