Údarás na Gaeltachta
Asiantaeth ddatblygu ar gyfer ardaloedd Gaeltacht Gweriniaeth Iwerddon yw Údarás na Gaeltachta ("Awdurdod y Gaeltach") a thalfyrir yn aml i UnaG. Ei ddyletswydd yw cadw'r iaith Wyddeleg yn fyw yn y Gaeltacht drwy ddarparu cyflogaeth i bobl y Gaeltacht yn eu hardal enedigol eu hunain, a gwella ansawdd eu bywydau. Mae'n rhoi cefnogaeth ariannol i fusnesau bychain sy'n gorfod cystadlu gyda chwmnïau tramor.[1]
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1980 |
Sylfaenydd | IDA Ireland |
Pencadlys | Furbo |
Gwefan | http://www.udaras.ie/ |
Hanes
golyguMae'r asiantaeth yn olynydd i Awdurdod arall, Gaeltarra Éireann, a oedd â'r un genhadaeth, ac eithrio nad oedd gan bobl y Gaeltacht gynrychiolwyr etholedig ar fwrdd cyfarwyddwyr yr asiantaeth honno. Sefydlwyd yr Awdurdod yn 1980 yn dilyn ymgyrch brotestio yn y Gaeltacht. Fe'i sefydlwyd yn wreiddiol yn 1980 o dan Ddeddf Údarás na Gaeltachta, 1979,[2]
Sefydliad
golyguMae ugain o bobl ar fwrdd cyfarwyddwyr yr Awdurdod. Etholir dau ar bymtheg ohonynt trwy bleidlais pobl y Gaeltacht, a phenodir y tri arall gan Weinidog y Gaeltacht. Cynhelir etholiadau awdurdod yn y Gaeltacht unwaith bob pum mlynedd.
Mae gan yr Awdurdod swyddfeydd rhanbarthol yn Swydd Donegal, Swydd Corc, Swydd Kerry a Swydd Mayo. Mae prif swyddfa'r Awdurdod yn Forbacha yn Conamara.
Etholaethau
golyguRhwng 1979 a 2012, etholwyd rhai aelodau o'r bwrdd trwy bleidlais boblogaidd o drigolion y Gaeltacht. Roedd yr etholaethau pleidlais sengl hyn fel a ganlyn:
Ardal Gaeltacht | 1979[3] | 1999[4] |
---|---|---|
Donegal | 2 | 4 |
Galway | 3 | 6 |
Mayo | 2 | |
Meath | 1 | |
Kerry | 2 | 2 |
Cork | 1 | |
Waterford | 1 | |
(Penodwyd) | 6 | 3 |
(Cyfanswm) | 13 | 20 |
Ymateb Gwleidyddol
golyguYn haf 2022 adroddwyd bod UnaG yn rhybuddio bod llety gwyliau’n un o’r bygythiadau mwyaf i ddyfodol yr iaith. Bu aelodau Údarás na Gaeltachta yn dweud bod diffyg tai yn ardaloedd y Gaeltacht yn gorfodi pobol o’u bröydd lle mae’r iaith ar ei chryfaf, ac yn rhybuddio bod pobol yn cael eu prisio allan o’r farchnad leol gan bobol sy’n prynu eiddo fel ail dai.[5]
Cydweithio â Chymru
golyguYn 2019 cymerodd UnaG ran ym mhrosiect Erasmus+ a elwyd yn ‘Innovative Language Teaching in a Bilingual Country’. Cynhalwyd y prosiect dros gyfnod o 3 blynedd (01/09/2019 – 31/08/2022) gyda'r nod o hyrwyddo arferion da mewn perthynas ag addysgu ail iaith. Fel rhan o’r prosiect bydd ymweliadau’n cael eu trefnu i’r 3 gwlad sy’n cymryd rhan yn y prosiect, sef Cymru, Galicia yn Sbaen ac Iwerddon. Bydd yr ymweliadau hyn yn digwydd dros gyfnod o wythnos a cheir ymweliadau ag ysgolion, digwyddiadau diwylliannol a chyflwyniadau gan lunwyr polisi yn ogystal â gweithdai a arweinir gan gyfranogwyr. Disgwyliwyd i tua 24 o athrawon a chynghorwyr iaith arbenigol o’n 3 rhanbarth gymryd rhan yn y prosiect (Iwerddon, Sbaen a Chymru). Bydd y prosiect hwn yn dechrau drwy ymchwilio i’r dulliau presennol o addysgu dwy iaith cyn cydweithio i lunio canllawiau ar sut i integreiddio ymagwedd gydamserol at ddwyieithrwydd yn llawn.[6]
Ysbrydoli Cymru
golyguYn 2016 galwodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y Lywodraeth Cymru i sefydlu "pedwar parc busnes cyfrwng Cymraeg er mwyn hybu defnydd y Gymraeg, yn ôl ymgyrchwyr iaith a drafododd strategaeth economaidd newydd". Daeth yr alwad yn dilyn trafodaethau rhwng Adam Price a'r Gymdeithas yn galw am sefydlu corff datblygu economaidd newydd o'r enw 'AnturIaith: Menter Iaith ar Waith'. Byddai'r corff yn "gweithredu pecyn o weithgaredd a fydd y Gymraeg yn rhan greiddiol a ganolog iddo, ar sail ‘Udaras na Gaeltachta’ yn Iwerddon neu Highlands and Islands Enterprise yn yr Alban," dywedwyd. [7]
Ar yr un trywydd, yn 2020 defnyddiwyd yr UnaG fel cynsail ar gyfer Deorfa Wledig (ynghŷd â'r Andoain Kulturpark yng Basgtir. Dywedwyd byddai'n ffordd i "gryfhau'r economi a'r iaith Gymraeg".[8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Murphy, William (2014). 21st Century Business Revised Edition. Ground Floor - Block B, Liffey Valley Office Campus, Dublin 22: CJ Fallon. t. 508. ISBN 978-0-7144-1923-7.CS1 maint: location (link)
- ↑ "Electronic Irish Statute Book (EISB)".
- ↑ "Údarás na Gaeltachta Act 1979, secs 6(2) and 29". electronic Irish Statute Book (eISB) (yn Saesneg). Cyrchwyd 30 March 2019.
- ↑ "Údarás na Gaeltachta (Amendment) (No. 2) Act 1999, secs 3 and 15". electronic Irish Statute Book (eISB) (yn Saesneg). Cyrchwyd 30 March 2019.
- ↑ "Llety gwyliau yn un o'r bygythiadau mwyaf i'r iaith Wyddeleg, medd awdurdod". Golwg360. 26 Medi 2022.
- ↑ "Innovative Language Teaching in a Bilingual Country". Gwefan Údarás na Gaeltachta. Cyrchwyd 25 Hydref 2022.
- ↑ "Galw am barciau busnes cyfrwng Cymraeg". Gwefan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. 2016.
- ↑ "Deorfa Wledig". Gwefan Business Wales. 2020.
Dolenni allanol
golygu- Údarás na Gaeltachta Gwefan swyddogol
- Údarás na Gaeltachta ar YouTube