Drama deledu hanesyddol ac olaf Saunders Lewis yw 1938, a gyfansoddwyd ym 1975, pan oedd yn 82 oed.[1] Comisiwn gan y cynhyrchydd George P. Owen o BBC Cymru oedd y sbardun, ac mae hi'n perthyn o ran thema i'w ddrama gynharach Brad (1955).[1]

1938
Enghraifft o'r canlynoldrama deledu
Dyddiad cynharaf1975
AwdurSaunders Lewis
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1989
PwncAdolf Hitler
Genredrama deledu Gymraeg
Dyddiad y perff. 1af1978

Disgrifiad byr

golygu

Seilir y ddrama ar ddigwyddiadau a chymeriadau hanesyddol fel Adolf Hitler a'i brif swyddogion o'r Drydedd Reich ychydig cyn yr Ail Ryfel Byd. Mae Act 1 yn agor ym mis Awst 1938, wrth i Hitler annerch swyddogion ei staff milwrol, gan ail-adrodd ei gynlluniau i "ddyrchafu" Yr Almaen "i fod unwaith eto ac am byth yn bennaf gallu ac yn bennaf pobl yn Ewrop".[2] Mae'r Cadfridog Ludwig Beck yn mynnu cael gair yn breifat gydag ef, ynglŷn â'r hyn mae Hitler newydd ei gyhoeddi, gan boeni nad yw'r Fyddin yn barod am Ryfel. Ceisia Hitler ei ddarbwyllo na fydd Rhyfel ym 1938, ond mwya'n byd y trafodir y mater, nid yw Beck yn gallu cytuno gyda'i gynlluniau, ac mae'n gorfod ymddiswyddo o'i Fyddin. Nid yw Hitler yn hapus am hyn, gan atgoffa Beck fod ei holl swyddogion wedi tyngu llw o deyrngarwch i'r Fuehrer. Ond ar ddiwedd yr Act, mae'n ildio, ac yn caniatáu dymuniad Beck, er ei fod yn amau ei deyrngarwch.

Yn Act 2, mae'r swyddogion yn cwrdd yn ddirgel yng nghartref Hjalmar Schacht, pennaeth Banc yr Almaen, er mwyn ceisio arbed cychwyn ail-Ryfel Byd. Daw Beck yno a'i olynydd fel Pennaeth newydd y fyddin, y cadfridog Franz Halder. Maent yn trafod sawl cynllun posib ar sut i atal cynlluniau Hitler, ac yn trefnu bod merch yn ymweld â Lloegr er mwyn ceisio cyd-weithio gyda Phrydain.

Digwydd Act 3 ar y 27 Medi 1938, ac mae Hitler yn lloerig nad yw'r dyrfa yn Berlin mor angerddol ag ef dros fynd i Ryfel. Mae o'n parhau yn benderfynol i gychwyn y cyrch milwrol am hanner dydd, ar y dydd canlynol, ond mae pawb i weld yn ei erbyn.

Daw Act 4 â'r ddrama i ben, am y tro, gyda buddugoliaeth dros-dro i Hitler, sydd, er gwaetha'r holl gynllunio, yn ennill y dydd dros ei swyddogion bradychus.

Cefndir

golygu

Cyfansoddodd Saunders Lewis y ddrama rhwng Awst a Thachwedd 1975, ac yntau'n 82 oed.[1] "Seiliodd y ddrama newydd hon ar gynllwyn gan grŵp o wladgarwyr o'r tu mewn a'r tu allan i'r fyddin Almaenig", yn ôl Yr Athro Ioan M. Williams, "yn ystod y cyfnod argyfyngus a arweiniodd at Gynghrair Munich, i gymryd y llywodraeth i'w dwylo'u hunain ac felly atal rhyfel yn Ewrop."[1]

Mae'r Athro Williams yn datgan bod Saunders yn argyhoeddedig "mai'r cytundebau a wnaethpwyd ym Munich a wnaeth y rhyfel yn anorfod—y Rhyfel hwnnw, meddai, a ddinistriodd yr Ewrop Gristnogol y credai tan hynny y gellid ei chreu."[1]

Dadleua Williams felly bod 1938 yn "drobwynt yn ei fywyd' ac wedi "lliwio popeth" a ysgrifennodd Saunders wedi hynny, tan ei farwolaeth ym 1985.[1]

"Sylwn yn gyntaf fod 1938 yn fwy hanesyddol na Brad, gan nad yw'n cyflwyno cymeriadau na digwyddiadau ffuglennol. Yr un llyfrau ag a defnyddiodd ar gyfer Brad a roddodd iddo fframwaith hanesyddol 1938, ac yr oedd yn ddyledus i'r llyfrau hyn hefyd ac i rai mwy diweddar gogyfer â'r portreadau a gyflwynodd o brif gymeriadau'r ddrama."[1]

Cafwyd cryn dipyn o drafferth i gastio rhan Hitler, a pharodd yr oedi dipyn o boen meddwl i'r Saunders oedrannus. David Lyn a ddewiswyd yn y pen draw, a bu'n rhaid aros tan 1977 cyn y bu dechrau ar y ffilmio.[1]

Cymeriadau

golygu
  • Adolf Hitler, canghellor yr Almaen
  • Ludwig Beck, cadfridog
  • Hjalmar Schacht, pennaeth Banc yr Almaen
  • Hans Oster, cyrnol, pennaeth adran ddirgel a gwrth-ysbïo y llywodraeth
  • Erwin von Witzleben, cadfridog
  • Franz Halder, cadfridog
  • Paul Schmidt, lladmerydd i Hitler
  • Walther von Brauchitsch, marsial, pencadlywydd y fyddin
  • Hilda Kordt, ar staff Oster
  • Bwtler i Dr Schacht
  • Morwyn
  • Milwyr

Cynyrchiadau nodedig

golygu

Darlledwyd addasiad teledu o'r ddrama ar ddiwedd Chwefror 1978 gan BBC Cymru.[3] Cyfarwyddwr George P Owen. Ymysg y cast roedd David Lyn a bortreadodd Adolf Hitler, a Meredith Edwards, Stewart Jones, Guto Roberts a Charles Williams.

Nid oedd adolygydd teledu Barn [Ebrill 1978] Bob Roberts, yn hapus iawn gyda'r portread o Adolf Hitler : "Fe gafwyd perfformiad brafiwra o’r Fuhrer gan David Lyn, ac er fod stranciau Hitler yn ddiarhebol, efallai fod Hitler David Lyn yn ormod o gartŵn. Roedd yn dangos paranoia'r dyn yn gryf iawn, ond roedd hynny'n tueddu i gymylu'r haen sylfaenol o ddichell a chreulondeb a'i nodweddai. Roedd Hitler Chaplin yn y Great Dictator yn fwy bygythiol er donioled oedd."[3]

Addaswyd rhannau o'r ddrama ynghyd â'r ddrama Brad, i greu y ffilm Brad a ddarlledwyd gan S4C ym 1994. Harri Pritchard Jones oedd yn gyfrifol am y sgript a ddefnyddiodd cyfyng gyngor Ludwig Beck, fel asgwrn cefn y ffilm.

Darllen pellach

golygu
  • Berlin Diary 1934-41 gan William Shirer (1942)
  • The Rise and Fall of the Third Reich (1959)

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 Williams, Ioan M. (2000). Dramâu Saunders Lewis - Y Casgliad Cyflawn Cyfrol 2. Prifysgol Cymru.
  2. Lewis, Saunders (1975). 1938.
  3. 3.0 3.1 Roberts, Bob (Ebrill 1978). "Nodiadau Teledu". Barn 183.