Guto Roberts

actor o Gymru

Actor o Gymru oedd Guto Roberts (13 Mawrth 19256 Mawrth 1999) a ymddangosodd mewn sawl cynhyrchiad llwyfan, ffilm a theledu yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ganed ef yn 'Isallt Fawr', Cwm Pennant.

Guto Roberts
Ganwyd13 Mawrth 1925 Edit this on Wikidata
Isallt-fawr Edit this on Wikidata
Bu farw6 Mawrth 1999 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Magwyd Roberts yn Eifionydd.

Efallai mai rhan mwyaf adnabyddus Guto Roberts oedd ei ran fel Ephraim Hughes y cyn-weinidog eisteddfodol, parchu yn y ddrama gomedi Fo a Fe.

Cymerodd ran mewn nifer o gynhyrchidau eraill yn yr 1970au ymlaen gan gynnwys, rhan arweinydd eisteddfod yn y ffilm Hedd Wyn, Mr Evans yng nghyfres deledu The Life and Times of David Lloyd George (1981); y Parch Jenkins yng nghyfres deledu Border Country (1979); Jenkyn Tyler yn Hawkmoor (1978) a Proctor yng nghyfres ddrama Brett (1971).

Yn ei flynyddoedd olaf bu’n gynrychiolydd i Gyhoeddiadau Mei a Gwasg Dwyfor.

Cariad at Fro

golygu

Cyflwynodd ffilm cartref fer am Aberdaron sy'n adrodd hanes yr ardal a'i chymeriadau, yn 1967[1] Nodir ei fod yn byw yn Rhoslan, ger Cricieth arno. Gwnaeth hefyd ffilmio ffilm cartref fer arall Helpu Dad (1970) gyda'r Meic Povey ifanc yn actio ynddo a sgript gan Wil Sam[2]

Gyhoeddwyd llyfr amdanno, Y Fo[3] gan Wasg Carreg Gwalch ac fe'i golygwyd gan Dr Meredydd Evans.

Gwaddol

golygu

Cyflwynodd Guto Roberts dros gant o eitemau gwerthfawr ar ffilm a fideo o ddigwyddiadau yn Eifionydd, sy’n amrywio o angladd T. H. Parry-Williams i bregeth gan Ifor Bowen Griffith a lluniau unigryw Robert Hughes, Uwchlaw’r Ffynnon wrth odre Yr Eifl i'r i’r Archif Sgrin a Sain Genedlaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Cyfeiriadau

golygu
  1. https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-aberdaron-1967-online
  2. https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-helpu-dad-1970-online
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-06. Cyrchwyd 2018-09-06.

Dolenni allanol

golygu