Addasiad i'r sgrin fawr o ddrama lwyfan Saunders Lewis yw'r ffilm Brad o 1994. Ffilmiau'r Tŷ Gwyn oedd yn gyfrifol am ei chynhyrchu ar gyfer S4C, a hynny fel dilyniant i Sigaret? - addasiad ffilm o'r ddrama Gymerwch Chi Sigaret? yn 1991.

Brad
Cyfarwyddwr Gareth Wynn Jones
Cynhyrchydd Gareth Wynn Jones a Dafydd Huw Williams
Ysgrifennwr Saunders Lewis
Addaswr Harri Pritchard Jones
Sinematograffeg Kevin Duncan
Sain Mike Shoring
Dylunio Medwyn Roberts
Cwmni cynhyrchu Ffilmiau'r Tŷ Gwyn ac S4C
Gwlad Cymru
Iaith Cymraeg

Harri Pritchard Jones oedd yng ngofal yr addasiad oedd yn llawer ehangach na'r ddrama wreiddiol, a Gareth Wynn Jones oedd yn cyfarwyddo. Roedd y cast yn cynnwys J.O Roberts, Grey Evans, Robin Griffith, Lyndsay Evans, Dafydd Emyr, Mari Rowland Hughes, Noel Williams a Dyfan Roberts fel Adolf Hitler.

Y byncar yn y ffilm Brad, Ffilmiau'r Tŷ Gwyn 1993 (llun Paul Griffiths)
Noel Williams tra'n ffilmio Brad 1993 Ffilmiau'r Tŷ Gwyn (llun Paul Griffiths)

Cynhyrchu

golygu
 
Dyfan Roberts a J.O Roberts yn ffilmio Brad 1993 (llun Paul Griffiths)

Ffilmiwyd y golygefydd am gyfnod o 7 wythnos yn Mehefin / Gorffennaf 1993 mewn amrywiol leoliadau o Gaernarfon i Lerpwl. Yng Nghaernarfon, defnyddwyd Plasdai Glynllifon a'r Faenol, ac yn Lerpwl ffilmiwyd yng Ngwesty'r Adelphi, Neuadd St George's a Plasdy Croxteth. Camp fwyaf y cynllunydd Medwyn Roberts oedd ail-greu'r byncar lle ceisiwyd gosod y bom, i ladd Hitler. Wedi adeiladu'r adeilad o bren, bu'n rhaid defnyddio ffrwydro'n i chwalu'r cyfan, at ddibenion y stori.

Helen Tucker oedd yng ngofal y coluro a Gwenda Evans yng ngofal y gwisgoedd, a bu'n rhaid i'r ddwy ymchwilio'n fanwl gan fod y cyfan yn cyd-fynd efo digwyddiadau hanesyddol.

Cast a chriw

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Mari Rowland Hughes". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2024-09-15.
  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.