David Lyn

actor a aned yn 1927

Actor a chyfarwyddwr theatr o Gymru oedd David Lyn neu David Lyn Jenkins (30 Ebrill 19274 Awst 2012).[1] Yn enedigol o'r Rhondda, roedd yn wyneb cyfarwydd ar BBC Cymru ac S4C o ddyddiau cynnar y ddau wasanaeth. Bu hefyd yn ran blaenllaw o gwmnïau gwreiddiol dramâu llwyfan Gwenlyn Parry fel actor a chyfarwyddwr (Saer Doliau (1966), Y Ffin (1968), Y Tŵr (1978)) a Saunders Lewis (Esther (1979)).

David Lyn
GanwydDavid Lyn Jenkins
30 Ebrill 1927
Y Porth, Y Rhondda
Bu farw4 Awst 2012 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma materColeg Y Drindod, Caerfyrddin
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata
PlantTim Lyn

Cefndir byr

golygu

Ganwyd yn Y Porth, Rhondda yn un o dri o blant i Violet Margaret née Evans (1904-1992) a David Jenkins (1896-). Er mai magwraeth yn Saesneg a gafodd y plant, bu iddynt ddysgu ac anwesu'r Gymraeg. Magwyd David Lyn ar fferm yn Cynwyl Elfed, Sir Gaerfyrddin, ac wedi llwyddo i ennill ei le yn yr ysgol ramadeg, aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Y Drindod, Caerfyrddin, a graddio fel athro. Wedi dilyn cwrs penwythnos gyda'r Royal Academy of Music (RAM) fe'i perswadiwyd i fudo i Lundain i ddilyn gyrfa fel actor.

Dechreuodd ei yrfa gyda'r Royal Shakespeare Company yn 1964 cyn ymuno â chriw o actorion i greu Theatr Yr Ymylon ym 1966.

Mae'n dad i'r actor a'r cyfarwyddwr ffilm a theledu Tim Lyn.

Theatr

golygu

1960au

golygu
 
David Lyn yn y cynhyrchiad cyntaf o ddrama Gwenlyn Parry Saer Doliau 1967 Cwmni Theatr Cymru

1970au

golygu

Teledu a Ffilm

golygu

1960au

golygu
  • The Wars of the Roses - trioled dramâu Henry VI a Richard III (1965) BBC/RSC
  • Pris y Farchnad

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Stephens, Meic (18 Hydref 2012). David Lyn: Actor who fought for Welsh theatre. The Independent. Adalwyd ar 28 Gorffennaf 2013.

Dolenni allanol

golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.