A4086
ffordd yng Ngwynedd
Priffordd yng Ngwynedd yw'r A4086. Mae'n arwain o Gaernarfon i ymuno â'r briffordd A5 ger Capel Curig.
Math | ffordd dosbarth A |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.0903°N 4.0517°W |
Gwleidyddiaeth | |
O ganol Caernarfon, mae'n arwain tua'r dwyrain i groesi Afon Seiont ger Pont-rug, yna'n troi tua'r de-ddwyrain heibio glan Llyn Padarn a Llyn Peris a thrwy Fwlch Llanberis, gyda chlogwyni Glyder Fawr ar y chwith a Crib Goch ar y dde, i gyrraedd Pen-y-pass, y man mwyaf poblogaidd i ddringo'r Wyddfa.
Mae'n troi tua'r gogledd-ddwyrain ger Pen-y-gwryd, lle mae cyffordd gyda'r A498, ar hyd Dyffryn Mymbyr a heibio Llynnau Mymbyr cyn ymuno â'r A5 ger Capel Curig.