Afon yn Eryri yw Nant y Gwryd[1][2] (amrywiadau: Nant-y-Gwryd, Nant-y-gwryd; Nantygwryd[3]; Nant Gwryd). Ei hen enw oedd Nant Gwryd Cai (gweler isod). Mae'n llifo trwy Ddyffryn Mymbyr ger Capel Curig yn Sir Conwy i lifo i Afon Llugwy. Ei hyd yw tua 5 milltir.

Nant y Gwryd
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru

Cwrs golygu

Prif darddle Nant y Gwryd yw Llyn Cwm-y-ffynnon ar lethrau deheuol y Glyderau. Oddi yno mae'n llifo heibio i westy Pen-y-gwryd a Llyn Lockwood a dan y briffordd A4086. Mae nifer o ffrydiau mynyddig yn llifo iddi o lethrau deheuol y Glyderau a llethrau gogleddol Moel Siabod. Mae'n llifo trwy ddolydd fferm Dyffryn Mymbyr - a bortreadir gan yr awdur Thomas Firbank yn ei lyfr I Bought a Mountain - ac i mewn i Lynnau Mymbyr. Ger Capel Curig mae'r afon yn llifo o'r llynnau ac yn ei blaen am chwarter milltir i lifo i Afon Llugwy (un o lednentydd Afon Conwy.[4]

Cysylltiad Arthuraidd golygu

Hen enw'r afon oedd Nant Gwryd Cai. Roedd Cai (Cai fab Cynyr neu Cai Hir) yn un o brif farchogion Arthur. Mae'n arwr mewn sawl chwedl Arthuraidd yn cynnwys Culhwch ac Olwen a'r Tair Rhamant. Ystyr y gair 'gwryd' neu 'gwrhyd' yw'r mesur safonol a geir pan ledo dyn ei freichiau allan ar led (cubit). Nid oes chwedl i esbonio'r enw wedi goroesi ond mae'n debyg bod yr enw yn cyfeirio at faintioli cawraidd yr arwr.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Ifor Williams, Enwau Lleoedd (Hugh Evans a'i Feibion, 1945), tud. 27.
  2. Alun Llywelyn-Williams, Crwydro Arfon (Cyfres Crwydro Cymru, 1959).
  3. Map OS 1:25,000 Eryri; Map OS Landranger 1:50,000 Taflen 115.
  4. Map OS 1:25,000 Eryri.