APEC
Sefydliad rhyngwladol sy'n trefnu cynadleddau i drafod masnach rydd rhwng 21 o wledydd ar ymylon y Môr Tawel yw APEC (Cydweithrediad Economaidd Asia a'r Cefnfor Tawel).[1] Sefydlwyd ym 1989 i greu bloc masnachol o economïau cyd-ddibynnol y Cefnfor Tawel; i wrthbwyso dominyddiaeth Japan ar economi Dwyrain Asia; ac i sefydlu marchnadau newydd y tu hwnt i Ewrop am gynnyrch amaethyddol a defnyddiau crai.[2]
![]() | |
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad rhynglywodraethol ![]() |
Label brodorol | Asia-pacific economic cooperation ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 6 Tachwedd 1989 ![]() |
Gweithwyr | 50 ![]() |
Pencadlys | Singapôr ![]() |
Enw brodorol | Asia-Pacific Economic Cooperation ![]() |
Gwladwriaeth | Singapôr ![]() |
Gwefan | https://www.apec.org/ ![]() |
![]() |
Cynhelir cyfarfod blynyddol gan bob aelod yn eu tro, a fynychir gan holl benaethiaid llywodraethol yr aelod-wladwriaethau ac eithrio Taiwan (a gynrychiolir gan weinidog a elwir yn "arweinydd economaidd Taipei Tsieineaidd").[3] Traddodiad gan yr arweinwyr yn y mwyafrif o gynadleddau yw gwisgo gwisg genedlaethol y wlad sy'n cynnal y cyfarfod y flwyddyn honno.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Member Economies - Asia-Pacific Economic Cooperation.
- ↑ CHAPTER 5, Back to Canberra: Founding APEC
- ↑ Conditions not right for APEC attendance: Ma. The China Post (2013-08-27).