Yn y crefyddau Abrahamig, proffwyd ac archoffeiriad Israelaidd oedd Aaron, brawd hŷn Moses, a flodeuai o bosib yn y 15g CC. Yn ôl y traddodiad Beiblaidd, efe oedd sefydlydd yr offeiriadaeth yn Israel hynafol. Mae'r holl wybodaeth amdano yn tarddu o destunau crefyddol, y Beibl Hebraeg yn bennaf, ac felly nid yw'n sicr os oedd Aaron yn ffigur hanesyddol ai beidio.

Aaron
Enghraifft o'r canlynolbod dynol yn y Beibl Edit this on Wikidata
CrefyddIddewiaeth foesenaidd edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn ôl y Beibl Hebraeg, cafodd efe a'i chwaer hŷn Miriam eu magu gan dylwyth Lefi yng Ngosen, yn wahanol i Foses a gafodd ei fabwysiadu gan lys brenhinol yr Aifft. Siaradodd Aaron ar ran Moses pan alwodd yr hwnnw ar y pharo i ryddhau'r Israeliaid. Yn ôl y gyfraith a gyflwynwyd i Foses ym Mynydd Sinai, rhoddwyd yr offeiriadaeth i Aaron a'i ddisgynyddion, ac urddwyd Aaron felly yn Archoffeiriad cyntaf yr Israeliaid. Bu farw Aaron cyn i'r Israeliaid groesi Afon Iorddonen, a chafodd ei gladdu ym Mynydd Hor neu ym Moserah. Cyfeirir at Aaron hefyd yn y Testament Newydd ac yn y Corân.

Y stori Feiblaidd

golygu

Yn ôl yr achau a gofnodir yn Llyfr Exodus, meibion Amran, fab Lefi, o'i wraig Iochebed, chwaer Lefi, oedd Aaron a Moses (Exodus 6:20), ac Aaron yn deirblwydd yn hŷn na Moses (Exodus 7: 7). Cofnodir Miriam, merch Amran ac felly chwaer Aaron, yn Llyfr Cyntaf y Cronicl (6: 3). Yn ôl Llyfr Numeri, bu farw Aaron ym Mynydd Hor ac yno fe'i claddwyd; yn ôl Llyfr Deuteronomium, Moserah oedd man ei farwolaeth a'i fedd.

Cyfeirir ato unwaith yn unig yn holl lyfrau'r proffwydi (Micha 6:4).[1] Yn y Testament Newydd, cyfeirir at Aaron yn yr Efengyl yn ôl Luc, Actau'r Apostolion, a'r Llythyr at yr Hebreaid.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Joshua R. Porter, "Aaron" yn The HarperCollins Bible Dictionary, golygwyd gan Paul J. Achtemeier et al. (Efrog Newydd: HarperCollins, 1996), t. 2.