Adam Matthews
Chwaraewr pêl-droed Cymreig yw Adam Matthews (ganwyd Adam James Matthews 13 Ionawr 1992). Mae'n chwarae i Sunderland yn Uwchgynghrair Lloegr a thîm cenedlaethol Cymru.
Matthews yn Stadiwm Dinas Caerdydd | |||
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | Adam James Matthews[1] | ||
Dyddiad geni | 13 Ionawr 1992 | ||
Man geni | Abertawe, Cymru | ||
Taldra | 1.78m | ||
Safle | Amddiffynnwr | ||
Y Clwb | |||
Clwb presennol | Sunderland | ||
Gyrfa Ieuenctid | |||
2000–2009 | Dinas Caerdydd | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
2009–2011 | Dinas Caerdydd | 41 | (1) |
2011–2015 | Celtic | 101 | (4) |
2015– | Sunderland | 2 | (0) |
2015– | → Bristol City (benthyg) | 0 | (0) |
Tîm Cenedlaethol‡ | |||
2008–2009 | Cymru dan 17 | 9 | (0) |
2008–2011 | Cymru dan 19 | 5 | (1) |
2009–2013 | Cymru dan 21 | 6 | (0) |
2011– | Cymru | 12 | (0) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 24 Mai 2015. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Gyrfa clwb
golyguCaerdydd
golyguFel bachgen ifanc, roedd Matthews yn chwaraewr rygbi amryddawn yn ogystala denu sylw clybiau pêl-droed[2]. Roedd yn ymarfer yn rheolaidd gydag Academi Dinas Abertawe ond ar ôl torri ei fraich, collodd y cyfle i ymuno â'r Swans ac ymunodd gyda Chaerdydd pan yn wyth mlwydd oed[3].
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Gaerdydd ar 15 Awst 2009 mewn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Blackpool[4].
Celtic
golyguYm mis Chwefror 2011 cyhoedd Celtic eu bod wedi cytuno i arwyddo Matthews yn ystod yr haf 2011 yn rhad ac am ddim[5]. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Aberdeen ar 7 Awst[6] cyn chwarae ei gêm Ewropeaidd cyntaf yn erbyn Atlético Madrid ar 15 Medi 2011[7].
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yng Nghynghrair y Pencampwyr i Celtic yn erbyn HJK Helsinki ar 1 Awst 2012[8].
Sunderland
golyguAr 3 Gorffennaf 2015, ymunodd Matthews â Sunderland ar gytundeb pedair blynedd am ffi o £2 miliwn.[9] Ar ôl cyfnod wedi ei anafu ac ar ôl dim ond dau ymddangosiad i Sunderland, ymunodd Mathews â Bristol City ar fenthyg ar 7 Mawrth 2016.[10]
Gyrfa ryngwladol
golyguChwaraeodd Matthews i dimau dan-17, dan-19 a dan-21 Cymru a chafodd ei gap llawn cyntaf dros Gymru fel eilydd yn erbyn Tîm pêl-droed cenedlaethol Yr Alban yng nghystadleuaeth y Cwpan Celtaidd yn Nulyn ar 25 Mai 2011[11].
Cafodd Matthews wobr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn 2012.[12]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Search 1984 to 2006 – Birth, Marriage and Death indexes". Findmypast.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-02. Cyrchwyd 2014-08-30.
- ↑ "Matthews happy with his Cardiff City decision". 2008-08-29. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Brown caps off an eventful week at Ninian". 2008-01-22. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Blackpool 1-1 Cardiff City". 2009-08-15. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Cardiff full-back Matthews signs pre-contract at Celtic". 2011-02-25. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Adam Matthews: Having pal Joe Ledley at Celtic has helped me settle quickly". 2011-08-12. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Atletico Madrid v Celtic as it happened". 2011-09-15. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Celtic2-1HJK Helsinki". 2012-08-01. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Sunderland sign Welsh international". Sunderland A.F.C. 2015-07-03 July 2015. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ "Cefnwr Cymru yn symud i Fryste". Golwg360. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "WelshFootballOnline: Wales 1-3 Scotland published=Welsh Football Online". 2011-05-21.
- ↑ "Sgorio: Joe Allen yw chwaraewr y flwyddyn". 2012-10-09. Unknown parameter
|published=
ignored (help)