Adam Sedgwick
paleontolegydd, daearegwr (1785-1873)
Daearegwr o Sais oedd Adam Sedgwick (22 Mawrth 1785 – 27 Ionawr 1873), a aned yn Dent, Cumbria. Astudiodd ym Mhrifysgol Caergrawnt. Un o'i diwtoriaid yno oedd y Cymro Thomas Jones.
Adam Sedgwick | |
---|---|
Ganwyd | 22 Mawrth 1785 Dent |
Bu farw | 27 Ionawr 1873 Caergrawnt |
Man preswyl | Lloegr |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | daearegwr, paleontolegydd, diddymwr caethwasiaeth |
Swydd | Llywydd Cymdeithas Ddaearegol Llundain, President of the British Science Association |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Copley, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Medal Wollaston |
Yn 1835 daeth i Ogledd Cymru a llwyddodd i ddadansoddi a chategoreiddio haenau creigiau sy'n cynnwys ffosilau ynddynt; enwodd yr hynaf yn Gambriaidd (o Cambria, enw Cymru mewn Lladin).
Astudiodd yn ogystal greigiau eraill mewn ardaloedd fel Dyfnaint (lle enwodd y cyfnod Defonaidd), Ardal y Llynnoedd a'r Alpau. Ond er gwaethaf ei ddarganfyddiadau chwyldroadol am oedran y Ddaear, gwrthodai dderbyn damcaniaethau Charles Darwin ar esblygiad.