Adeilad y Senedd (Gogledd Iwerddon)

Adeilad y Senedd (Saesneg: Parliament Buildings), a adwaenir hefyd fel Stormont oherwydd ei leoliad yn ardal Stormont, Belffast, yw cartref Cynulliad Gogledd Iwerddon a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Yn y gorffennol bu'n gartref i Senedd Gogledd Iwerddon, a adwaenid fel rheol fel "Stormont".

Adeilad y Senedd
Mathsenedd-dy Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol16 Tachwedd 1932 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBelffast Edit this on Wikidata
GwladBaner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon
Cyfesurynnau54.605°N 5.832°W Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolNeo-glasuriaeth Edit this on Wikidata

Ar ôl i weddill Iwerddon ennill ei annibyniaeth oddi ar y Deyrnas Unedig yn 1921, gadwyd Gogledd Iwerddon yn y DU. Roedd angen sefydlu llywodraeth yno a phenderfynwyd codi adeilad senedd ym Melffast. Adeiladwyd y senedd-dŷ ar gynllun newydd-glasurol gan Stewart & Partners a chafodd ei agor yn swyddogol gan Edward, Tywysog Cymru, ar 16 Tachwedd 1932.

Gydag ailsefydlu datganoli yn y Gogledd, bu dadl ynglŷn â chartref addas i Gynulliad Gogledd Iwerddon. Gwrthwynebodd Sinn Fein ddefnyddio'r hen adeilad am fod "Stormont" yn cael ei gysylltu â chyfnod rheolaeth yr Unoliaethwyr, ond gwrthodwyd gwrthwynebiad y Gweriniaethwyr ac ni chodwyd senedd-dŷ newydd. Er hynny, penderfynwyd defnyddio'r enw 'niwtral' "Adeilad y Senedd" yn lle "Stormont" fel enw swyddogol y senedd-dŷ.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Ogledd Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.