Mwyalchen
Mwyalchen Turdus merula | |
---|---|
Turdus merula, masculum | |
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Turdidae |
Genws: | Turdus[*], Merula[*] |
Rhywogaeth: | Turdus merula |
Enw deuenwol | |
Turdus merula | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Mae'r Fwyalchen (Turdus merula) yn aelod o deulu'r Turdidae. Mae'n aderyn cyffredin ac adnabyddus trwy Ewrop a rhan sylweddol o Asia ac yn debyg iawn i Fwyalchen y mynydd.
Mae'r Fwyalchen rhwng 23.5 a 29 cm o hyd. Gellir adnabod y ceiliog yn hawdd oddi wrth y plu du, heb unrhyw liw arall, pig melyn a modrwy felen o gwmpas y llygad. Mae'r iâr a'r adar ieuainc yn frown. Gellir clywed y ceiliog yn canu cyn ac yn ystod y tymor nythu; ambell dro gall ddynwared cân adar eraill neu ryw swn arall sydd i'w glywed yn yr ardal.
Nid yw'n aderyn mudol yn y rhannau hynny lle nad yw'r gaeafau yn oer iawn, ond mae adar o'r rhannau oerach yn symud tua'r de neu tua'r gorllewin. Nid yw'n aderyn sy'n casglu mewn heidiau mawr fel rheol.
Oherwydd ei fod yn aderyn adnabyddus a phoblogaidd, mae'r Fwyalchen wedi ei ollwng yn fwriadol mewn nifer o rannau o'r byd. Ystyrir yr aderyn yn broblem yn Awstralia a Seland Newydd gan ei fod yn cystadlu ag adar brodorol.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn T. merula, sef enw'r rhywogaeth (ar ôl ei ysgrifennu'r cyfeiriad cyntaf ato yn y testun yn llawn yn ôl confensiwn).[1]
Teulu
golyguMae'r mwyalch yn perthyn i deulu'r Brychion (Lladin: Turdidae). Dyma aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Bronfraith | Turdus philomelos | |
Brych daear Crossley | Geokichla crossleyi | |
Brych daear Molwcaidd | Geokichla dumasi | |
Brych daear Siberia | Geokichla sibirica | |
Brych gyddfddu | Turdus atrogularis | |
Geokichla cinerea | Geokichla cinerea | |
Geokichla interpres | Geokichla interpres | |
Mwyalch Adeinlwyd | Turdus boulboul | |
Mwyalchen | Turdus merula | |
Mwyalchen y mynydd | Turdus torquatus | |
Socan eira | Turdus pilaris |
Llên
golyguEnglyn i'r Fwyalchen gan T. Llew Jones
Ba artist â chân bertach - hwyr denor
Du ei ŵn fel mynach.
Dyma gerddor rhagorach
Na Johann Sebastian Bach.
Mwyalchen yn codi teulu
golyguCofnod mewn lluniau a geir isod o fwyalchen yn codi teulu ar wal gefn wrth dŷ yn Llandudno ac roedd yn anarferol o ddof![2]
-
Y Fwyalchen yn paratoi nyth
-
Y Fwyalchen yn dangos ei nyth
-
Y cywion yn datblygu
-
Cyw yn protestio ei fod ar lwgu
-
Yr iâr fwyalchen yn brysur yn casglu bwyd ar gyfer y cywion
-
Cywion bron yn barod i adael y nyth
-
Cyw Mwyalchen wedi parhau o gwmpas
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
- ↑ Gwaith Gareth Pritchard
Dolenni allanol
golygu- Cân y Fwyalchen Archifwyd 2008-12-17 yn y Peiriant Wayback