Aditya
(Ailgyfeiriad o Adityas)
Yn Hindŵaeth a'r Veda, grŵp o dduwiau'r haul sy'n feibion y dduwies Aditi a Kashyapa yw'r Aditya. Yn ogystal mae'r gair aditya yn cael ei gynnwys yn aml mewn enwau personol gwrywaidd yn India, e.e. Vikramaditya, Aditya, Suryaaditya, allan o barch i'r duwiau haul hyn.
Veda
golyguYn y Rig Veda, ceir saith Aditya sy'n feibion Aditi ac sy'n cael eu harwain gan y duw Varuna gyda Mitra yn ail iddo:
Yn yr Yajur Veda (Taittirīya Samhita), dywedir bod wyth Aditya.
Brahmanas
golyguYn y Brahmanas, mae eu rhif yn tyfu i ddeuddeg, gan gyfateb i'r deuddeg mis a deuddeg arwydd y Sidydd:
Vedanta a Purana
golyguYn y Chāndogya-Upanishad, mae Aditya yn un o enwau Vishnu yn ei ymgnawdoliad (avatar) fel y corrach Vamana. Ei fam yw'r dduwies Aditi.
Yn y Vishnu Purana ceir rhestr arall o'r Aditya:
Cyfeiriadau
golygu- Anna Dallapiccola, Dictionary of Hindu Lore and Legend ISBN 0-500-51088-1