Ardudwy Is Artro

cwmwd yng Ngwynedd

Cwmwd canoloesol ar lan ogleddol Bae Ceredigion yng ngogledd-orllewin Cymru oedd Ardudwy Is Artro. Gydag Ardudwy Uwch Artro, cafodd ei ffurfio allan o hen gantref Ardudwy.

Ardudwy Is Artro
Mathcwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.787724°N 4.076708°W Edit this on Wikidata
Map
 
Hen lwybr mynydd yn Ardudwy Is Artro. Defnyddiai'r porthmyn y ffordd hon dros Fwlch y Rhiwgyr.

Dynodai Afon Artro y ffin rhwng Is Artro ac Uwch Artro i'r gogledd. Y ffin yn y de oedd aber Afon Mawddach gyda chwmwd Tal-y-bont yng nghantref Meirionnydd yn gorwedd ar y lan arall.[1]

Cwmwd bychan, mynyddig, yw Is Artro, sy'n gorwedd yng nghongl de-orllewinol Ardudwy ar lan Bae Ceredigion. Ystumgwern oedd maerdref y cwmwd. Roedd y llannau yn cynnwys Llanaber a Llanenddwyn. Y prif blasdy erbyn diwedd yr Oesoedd Canol oedd Corsygedol, cartref y Fychaniaid.[1]

Yn fuan yn ei hanes daeth y diriogaeth yn rhan o Deyrnas Gwynedd. Daeth y cwmwd yn rhan o'r Sir Feirionnydd newydd fel rhan o drefniant Statud Rhuddlan yn 1282.[1] Heddiw mae'n gorwedd yng Ngwynedd.

Plwyfi

golygu

Erbyn yr Oesoedd Canol Diweddar ceir pedwar plwyf yn y cwmwd:

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Geraint Bowen (gol.), Atlas Meirionnydd (Y Bala, ail argraffiad, 1975).