Llandanwg

pentref yng Ngwynedd

Pentref bychan a phlwyf ar arfordir Ardudwy, de Gwynedd, yw Llandanwg ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Lleolir y pentref 2 filltir i'r de o Harlech. Mae'n adnabyddus am ei eglwys ganoloesol a'i draeth llydan.

Llandanwg
Mathpentref Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlTanwg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanfair Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.8358°N 4.1243°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH570285 Edit this on Wikidata
Cod postLL46 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Mae Llandanwg yn gorwedd ger aber Afon Artro ym Mae Ceredigion, hanner milltir i'r gorllewin o bentref Llanfair. Mae ganddo orsaf ar Reilffordd y Cambrian. Mae'r traeth braf yn denu nifer o ymwelwyr yn yr haf.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Yr orsaf reilffordd

Eglwys Llandanwg golygu

Mae'r eglwys, a sefydlwyd fel clas gan Sant Tanwg yn ôl traddodiad, yn dyddio i ddiwedd yr Oesoedd Canol, ond mae'n debyg fod sefydliad yma cyn hynny. Eglwys Llandanwg yw mam-eglwys Harlech a Llanbedr; arwydd o'i statws uchel yn yr oesoedd a fu. Mae'n gorwedd ger y traeth ac mewn perygl parhaol o gael ei boddi gan y tywod. Codwyd yr eglwys bresennol yn y 15g ond erbyn y 19g roedd ei hadeiladwaith wedi dirywio a chafodd ei hatgyweirio.

Ceir dau faen hynafol gydag arysgrifau arnynt yn yr eglwys. Mae un yn dyddio i'r 5g ac yn gwasanaethu fel lintel yn ffenestr ddwyreiniol yr eglwys. Mae'r llall yn y ffenestr ddeheuol ac yn dwyn priflythrennau Rhufeinig arno.

Yn yr Oesoedd Canol bu Llandanwg yn gwasanaethu fel capel gorffwys i gyrff y meirw ar eu ffordd o Ardudwy i gael eu claddu yn Ynys Enlli. Ceir cyfeiriadau at hyn mor ddiweddar â'r flwyddyn 1710.

Yn y fynwent ceir bedd tybiedig y bardd Siôn Phylip (tua 1543-1620), un o Philypiaid Ardudwy. Boddodd ar ddiwedd taith clera trwy Lŷn a Môn yn croesi o Bwllheli yn ôl i'w gartref ym Mochres (ychydig dros filltir i'r de o Landanwg, ar lan y môr). Ceir englyn coffa iddo gan ei gyd-fardd Huw Llwyd, Cynfal, ar ei garreg fedd.

Bu Ellis Wynne, awdur Gweledigaethau y Bardd Cwsc yn rheithor Llandanwg o 1705 hyd 1710.

Oriel golygu

Llyfryddiaeth golygu

  • T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyn Dŵr, 2000)
  • T. I. Ellis, Crwydro Meirionnydd (Llyfrau'r Dryw, 1954)

Cyfeiriadau golygu