Llyn Cwm Bychan
Llyn, Gwynedd, Cymru
Llyn yn y Rhinogydd yng Ngwynedd yw Llyn Cwm Bychan neu Llyn Cwmbychan.
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanbedr |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.86°N 4.03°W |
Saif y llyn, sydd ag arwynebedd o 25 acer, ym mhen uchaf Cwm Bychan, rhwng Rhinog Fawr a Moel Ysgyfarnogod a Chraig Ddrwg. Gerllaw'r llyn mae'r "Grisiau Rhufeinig" yn arwain tua'r dwyrain dros Fwlch Tyddiad; credir nad oes cysylltiad a'r Rhufeiniaid er gwaethaf yr enw, ac mai o'r Canol Oesoedd y maent yn deillio.
Gerllaw'r llyn mae ffermdy Cwm Bychan, hen gartref teulu'r Llwydiad, oedd yn olrhain eu tras cyn belled yn ôl a Bleddyn ap Cynfyn, brenin Gwynedd a Phowys yn yr 11g. Mae Thomas Pennant yn cofnodi ei ymweliad â'r teulu.
Y llyn yma yw tarddle Afon Artro, sydd wedyn yn llifo tua'r de-orllewin i lawr Dyffryn Artro.
Cofio ffilmio The Drum
golygu- Cofiaf y diweddar Brifathro, sef Mr Bennett Williams, brodor o'r Bermo, hefo dawn y gŵr cyfarwydd ganddo, yn yr Ysgol Gynradd yn Nhalsarnau, sir Feirionnydd, yn son am ffilmio 'The Drum' ger Llyn Cwmbychan, a hynny yn ystod mis Awst crasboeth yn y flwyddyn 1937, pryd penderfynodd bryfyn 3 milimedr ran hyn, ie ! dyna chwi pwy ond fo ynte, sef robin y gyrrwr, focha hefo cynffon un o'r mulod eithaf ufudd cyn hynny a geid ar y set. Dechreuodd hwnnw ddangos nerth ei goesau, a dyna wir i chwi a wnaeth gweddill y criw mulod hefyd. Cafwyd cythraul o stampid! Ond hyd y gwn i, ni chynhwyswyd yr olygfa honno yn y film![1]
Llyfryddiaeth
golygu- Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rhan o erthygl di-enw yn Eco'r Wyddfa Hydref 2018