Llanbedr, Gwynedd
Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Llanbedr ( ynganiad ). Saif yn ardal Ardudwy ychydig i'r de o Harlech lle mae'r A496 i Abermaw yn croesi Afon Artro.
Math | cymuned, pentref |
---|---|
Poblogaeth | 533 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.8201°N 4.1014°W |
Cod SYG | W04000067 |
Cod OS | SH582268 |
Cod post | LL45 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
- Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Llanbedr (gwahaniaethu).
Tyfodd y pentref yn wreiddiol oherwydd y diwydiant llechi, ac yn awr mae'n boblogaidd gydag ymwelwyr yn ystod yr haf. Mae nifer o henebion yn y cyffiniau, yn cynnwys meini hirion o Oes yr Efydd ac olion tai crwn. Rhwng y pentref a'r môr mae twyni tywod Morfa Dyffryn a Mochras sydd hefyd yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr. Caewyd maes awyr y Llu Awyr Brenhinol ar Forfa Dyffryn yn 2005. Mae'r safle wedi'i glustnodi yn Ardal Fenter gan Lywodraeth Cymru. Bwriedir hedfan dronau ac efallai awyrennau i'r gofod o'r maes awyr yn y dyfodol agos. Mae gan y pentref orsaf ar Reilffordd y Cambrian.
Rhyw filltir i'r dwyrain o'r pentref mae Pentre Gwynfryn. Y capel yma oedd capel "Salem" yn y llun enwog gan Sydney Curnow Vosper o Siân Owen, Tynyfawnog. Gerllaw Mochras gellir gweld rîff danfor Sarn Badrig ar lanw isel.
Gefeilldref
golyguGefeilliwyd Llanbedr â Huchenfeld yn 2008 wedi nifer o flynyddoedd o gyfnewid rhwng yr ysgolion, eglwysi, cerddorion ac arweinwyr y cymunedau. Datblygwyd perthynas agos a sefydlwyd ewyllys da rhwng y cymunedau er cof am y digwyddiadau erchyll ym 1945 yn Pforzheim a Huchenfeld yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[1]
Pobl
golygu- Llanbedr 50 mlynedd yn ôl”
“Gruffydd Dafydd oedd y gof [tua 1850] ac roedd yntau’n bersonoliaeth boblogaidd yn y pentref, yn ffraeth, yn siaradwr cyflym ac yn weithiwr dygn. Daeth ei efail yn fan cyfarfod i’r pentrefwyr. Roedd ganddo ddawn arbennig i doddi copr ac efydd, a phan ofynnwyd am y dull cyfrinachol, ei ateb bob amser oedd, “Mae arnoch angen lapis calamoniaris, machgen i!”[2]
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan llanbedr.com adalwyd 18 Medi 2014
- ↑ o draethawd a ysgrifennwyd gan Gwilym Ardudwy ym 1907 o dan y pennawd ‘Llanbedr 50 mlynedd yn ôl’” LLANBEDR(ym Mwletin Llên Natur rhifyn 54[1]
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw · Y Bala · Bethesda · Blaenau Ffestiniog · Caernarfon · Cricieth · Dolgellau · Harlech · Nefyn · Penrhyndeudraeth · Porthmadog · Pwllheli · Tywyn
Pentrefi
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Aber-erch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Beddgelert · Bethania · Bethel · Betws Garmon · Boduan · Y Bont-ddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas, Llanwnda · Dinas, Llŷn · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolbenmaen · Dolydd · Dyffryn Ardudwy · Edern · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Fron-goch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Llanaber · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandecwyn · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywer · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhosgarnedd · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Pen-y-groes · Pistyll · Pontllyfni · Portmeirion · Prenteg · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhoslefain · Rhostryfan · Rhos-y-gwaliau · Rhyd · Rhyd-ddu · Rhyduchaf · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Saron · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Tal-y-llyn · Tal-y-sarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tre-garth · Tremadog · Tudweiliog · Waunfawr