Afon Cefni (llong)


Roedd yr Afon Cefni yn llong hwylio haearn pedwar hwylbren oedd yn chwaer-long i'r Afon Alaw. Cafodd ei henwi ar ôl Afon Cefni, un o afonydd Ynys Môn.

Afon Cefni
Enghraifft o'r canlynolllong hwylio Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaAfon Cefni (llong) Edit this on Wikidata
Rhanbarthdyfroedd rhyngwladol Edit this on Wikidata

Fel yn achos yr Afon Alaw, cafodd yr Afon Cefni ei hadeiladu yn Glasgow yn yr Alban gan gwmni A. Stephens & Sons ar gyfer Hughes & Co o Borthaethwy, Môn, flwyddyn o flaen yr Afon Alaw, yn 1890.

Ni chafodd y llong yrfa hir. Yn 1894 roedd hi ar ei ffordd i San Francisco, yn yr Unol Daleithiau, o borthladd Abertawe pan aeth ar goll gyda'r criw oll. Yn ddiweddarach cafodd darnau ohoni eu golchi i fyny yn Ynysoedd Syllan (Ynysoedd Scilly) oddi ar arfordir Cernyw.