Afon Ceirw
afon yng ngogledd Cymru
Mae Afon Ceirw yn afon yng ngogledd Cymru. Ei hyd yw tua 14 milltir.[1]
![]() | |
Math |
afon ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Conwy, Sir Ddinbych ![]() |
Gwlad |
![]() |
Uwch y môr |
207 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
52.96667°N 3.46667°W ![]() |
![]() | |

Afon Ceirw ger ei tharddle yn llifo i gyfeiriad Cerrig-y-drudion.
Llwybr yr afonGolygu
Mae'r afon yn tarddu yn y bryniau yn ardal Uwch Aled rhwng Carnedd y Filiast (2194') a Garn Prys (1747') yn ne sir Conwy, tua 4 milltir i'r gorllewin o Gerrigydrudion. Ar ôl llifo i gyfeiriad y dwyrain mae'n troi i'r de-ddwyrain ger Cerrigydrudion ac yn llifo'n gyfochrog â lôn yr A5 heibio i bentrefi bychain Llangwm a'r Maerdy ac ymlaen i'r Ddwyryd yn Sir Ddinbych. Rhai milltiroedd ar ôl hynny mae hi'n llifo i'r afon Alwen ger Corwen.[1]
Mae enw'r afon yn atgof o'r amser pan geid nifer o geirw ac anifeiliad gwyllt eraill ar fryniau Cymru.