Cerrigydrudion
Pentref bychan a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Cerrigydrudion[1][2] (neu Cerrig-y-drudion). Saif yn ne-ddwyrain y sir yn y bryniau ar lôn yr A5, tua 8 milltir i'r gogledd-orllewin o dref Corwen. Yn ogystal â'r A5, mae lôn yn cysylltu'r pentref â Rhuthun i'r gogledd-ddwyrain a Dinbych i'r gogledd. Roedd yn Sir Ddinbych gynt.
Canol pentref Cerrigydrudion | |
Math | cymuned, pentref |
---|---|
Poblogaeth | 740, 716 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 6,128.09 ha |
Cyfesurynnau | 53.026°N 3.562°W |
Cod SYG | W04000112 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Jones (Ceidwadwr) |
Cerrigydrudion yw'r pentref mwyaf yn ardal Uwchaled, sydd yn cynnwys yn ogystal Llangwm, Pentrefoelas, Pentre-llyn-cymer, Dinmael, Glasfryn, Cefn-brith, Llanfihangel Glyn Myfyr a Cwmpenanner. Yn ôl cyfrifiad 2001 mae 75% o'r boblogaeth o 692 o bobl yn siarad y Gymraeg fel iaith bob dydd.
Hanes
golyguMae rhai o'r bythynnod yn y pentref yn dyddio o 1717. Arosodd George Borrow yn nhafarn y Llew Gwyn ar ei ffordd o Langollen ar ei daith trwy Gymru; wrth ymarfer ei Gymraeg efo'r morwynion cafodd ei gyflwyno i Eidalwr ar daith yn y gogledd a oedd wedi dysgu Cymraeg hefyd (neu rywfaint, o leiaf).
Mae eglwys y plwyf yn gysegredig i Fair Fadlen. Yn y bryniau tua milltir i'r de-ddwyrain ceir bryngaer Caer Caradog, ond mae'n annhebygol iawn fod unrhyw gysylltiad rhyngddi â'r Caradog (Caratacus) hanesyddol.
Yn ôl etymoleg boblogaidd mae'r enw yn golygu "Cerrig y Derwyddon", ond y gwir ystyr yw "Cerrig y Dewrion".
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Enwogion
golygu- John Jones (Jac Glan-y-gors), 10 Tachwedd, 1766
- Robert Price (1653-1733), barnwr a gwleidydd
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Trefi
Abergele · Bae Colwyn · Betws-y-Coed · Conwy · Cyffordd Llandudno · Degannwy · Hen Golwyn · Llandudno · Llanfairfechan · Llanrwst · Penmaenmawr · Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel · Bae Penrhyn · Betws-yn-Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Dawn · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwys-bach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llanelian-yn-Rhos · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llangystennin · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarnyfedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd-y-foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Ysbyty Ifan