Pentref bychan yn Sir Ddinbych, Cymru, yw'r Ddwyryd (Saesneg: Druid). Saif y pentref gwledig yn ne-orllewin y sir ar groesffordd yr A5 a'r A494, tua 2 filltir i'r gorllewin o Gorwen. Ceir tafarn adnabyddus yno, sef 'Tafarn y Druid' (y Druid Inn).

Y Ddwyryd
'Tafarn y Druid', Y Ddwyryd.
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCorwen Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53°N 3.4°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Llurguniad o'r enw Cymraeg gwreiddiol yw'r ffurf Saesneg Druid; nid oes unrhyw gysylltiad hanesyddol rhwng y pentref â'r derwyddon. Daw enw'r pentref o'i sefyllfa ger dwy ryd gerllaw, un ar afon Ceirw, sy'n rhedeg i afon Dyfrdwy yn is i lawr y dyffryn, a'r llall ar ffrwd fechan sy'n llifo i'r afon honno.

Mae'r cymunedau bychain cyfagos yn cynnwys Four Crosses a Glan-yr-afon i'r de, Y Maerdy i'r gorllewin a Betws Gwerful Goch i'r gogledd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Simon Baynes (Ceidwadwyr).[1][2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014