Afon Dulyn

afon yng Nghymru

Afon yn Y Carneddau, Eryri, yw Afon Dulyn. Mae'n llifo allan o Lyn Dulyn, llyn tua 2000 troedfedd i fyny yng nghysgod Foel Fras, i lifo i Afon Conwy. Mae'n llifo yng nghymuned Caerhun, Sir Conwy.

Afon Dulyn
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2033°N 3.8355°W Edit this on Wikidata
Map
Afon Dulyn

Disgrifiad golygu

Fymryn islaw Llyn Dulyn mae ffrwd fechan Afon Melynllyn, sy'n llifo allan o Lyn Melynllyn gerllaw, yn ymuno â hi. Yna mae'r afon yn llifo i'r dwyrain trwy Bant y Griafolen ac i lawr i ymuno ag Afon Conwy ger Tal-y-bont, rhwng Caerhun a Dolgarrog.

Mae lefel y dŵr yn Afon Dulyn yn tueddu i fod yn isel am fod dŵr Llyn Dulyn yn cael ei gludo i Lyn Eigiau a Llyn Cowlyd.

Ceunant Dulyn golygu

Mae Ceunant Dulyn wedi'i dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 01 Ionawr 1961 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae ei arwynebedd yn 35.66 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.

Cyfeiriadau golygu