Llyn Dulyn (Carneddau)
Llyn yn y Carneddau yn Eryri yw Llyn Dulyn. Saif yn sir Conwy, i'r dwyrain o Foel Grach a Garnedd Uchaf. Fymryn i'r de ohono mae llyn arall, Llyn Melynllyn.
Math | cronfa ddŵr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.1803°N 3.9458°W |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Nid yw'r llyn yn un mawr, gydag arwynebedd o 33 acer, ond mae'n un o'r llynnoedd dyfnaf yn Eryri, 189 troedfedd yn y man dyfnaf. Oherwydd ei fod mor ddyfn, roedd Llyn Dulyn yn un o'r llynnoedd y symudwyd y torgochiaid oedd yn Llyn Peris iddynt pan adeiladwyd Gorsaf Bŵer Dinorwig. Mae'r clogwyni rhwng y llyn a'r copaon uwchben wedi bod yn safle nifer o ddamweiniau i awyrennau oedd yn hedfan yn rhy isel mewn tywydd garw.
Adeiladwyd argae yn 1881 er mwyn defnyddio'r llyn i gyflenwi dŵr; ar hyn o bryd mae'n cyflenwi dŵr i dref Llandudno. Gellir gweld y pibellau dŵr yn croesi Afon Conwy dros bont Tal-y-Cafn. Mae dŵr Llyn Dulyn hefyd yn cael ei gludo i Lyn Eigiau a Llyn Cowlyd. Mae Afon Dulyn yn llifo allan o'r llyn tua'r gogledd-ddwyrain, ac yn ymuno ag Afon Conwy gerllaw Tal-y-bont.
Yr Allor Goch
golyguCeir traddodiad llên gwerin diddorol ynglŷn â Llyn Dulyn. Dywedir na welwyd erioed arno eleirch gwyllt yn disgyn, na hwyaid, nag un math arall o aderyn. Ac yn y llyn mae sarn o gerrig yn mynd iddo, a phwy bynnag a â ar y sarn pan fo hi yn des gwresog, ac sy'n talfu dŵr gan wlychu'r garreg eithaf yn y sarn a elwir yr Allor Goch, siawns na cheir glaw cyn y nos.
Dyna a geir yn Y Brython (1859). Yn yr un rhifyn dywedir fod pysgod gyda phennau anferth a chyrff bychain yn byw yn y llyn.
Llyfryddiaeth
golygu- The Lakes of Eryri, gan Geraint Roberts, Gwasg Carreg Gwalch, 1985
- John Jones (Myrddin Fardd), Llên gwerin Sir Gaernarfon (Caernarfon, 1908)