Afon Dysynni
Afon ym Meirionnydd, de Gwynedd, Cymru, yw Afon Dysynni.
![]() | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 2 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 52.6084°N 4.1243°W ![]() |
Aber | Môr Iwerddon ![]() |
![]() | |
Cwrs golygu
Mae Afon Dysynni yn tarddu ar lethrau Cadair Idris uwchben Llyn Cau. Ar ôl llifo trwy Llyn Cau mae'n llifo'n gyflym i lawr y llethrau nes cyrraedd Llyn Mwyngil. Wedi gadael y llyn yma mae'n llifo'n fwy hamddenol tua'r de-orllewin heibio Abergynolwyn, lle mae Nant Gwernol yn ymuno a'r afon. Gerllaw Castell y Bere mae Afon Cadair yn ymuno a'r Dysynni ac mae'r tir yn agor i ffurfio Dyffryn Dysynni. Mae'r afon yn mynd heibio Llanegryn, plasdy hynafol Peniarth a Bryncrug ar ei wely gwastad ac yn cyrraedd y môr yn Aberdysynni, i'r gogledd o dref Tywyn.[1]
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.