Castell y Bere
Castell Cymreig yn ne Gwynedd yw Castell y Bere. Roedd yn un o gestyll pwysicaf tywysogion Gwynedd yn y 13g. Fe'i codwyd gan Llywelyn Fawr ac mae lle i gredu fod y bardd Gruffudd ab yr Ynad Coch wedi cyfansoddi ei farwnad enwog i Lywelyn ap Gruffudd yn y Bere yn Rhagfyr 1282 neu ddechrau 1283.
Math | castell, cestyll y Tywysogion Cymreig |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.658258°N 3.971067°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | ME023 |
Lleoliad
golyguLleolir y castell ym mhlwyf hanesyddol Llanfihangel-y-Pennant, yng nghwmwd Ystumanner, cantref Meirionnydd, ym mhen uchaf Dyffryn Dysynni. Mae'n sefyll ar grug neu fryncyn isel ar lan ddeheuol Afon Cader, ffrwd sy'n aberu yn Afon Dysynni hanner milltir i'r gorllewin o'r castell. Mae hen lwybr dros fwlch Nant-yr-Eira ac un arall ar lan Afon Dysynni yn ei gysylltu ag Abergynolwyn i'r dwyrain. Yn y gogledd mae bryniau mawr cadwyn Cadair Idris yn ei amddiffyn. Yr unig fynediad rhwydd iddo yw i fyny Dyffryn Dysynni o gyfeiriad Llanegryn a Thywyn ar yr arfordir. Roedd gwylfa ar ben Craig yr Aderyn i'w gwarchod o'r cyfeiriad hwnnw.
Hanes
golyguCodwyd y castell gan Llywelyn Fawr yn 1221 pan feddiannodd gantrefi Meirionnydd ac Ardudwy yn sgîl anghydfod â'i fab Gruffudd. Fe'i codwyd i gadw golwg ar y wlad rhwng Afon Mawddach ac Afon Dyfi, y fynedfa naturiol i ganol teyrnas Gwynedd o gyfeiriad y De. Ychydig a wyddom am ei hanes tan 22 Ebrill 1283 pan y'i cipiwyd gan luoedd y brenin Edward I o Loegr; y castell olaf o bwys i syrthio yn Ail Ryfel Annibyniaeth Cymru[1]. Ceir dogfen dyddiedig 12 Rhagfyr, 1263, yn Ystumanner sy'n cofnodi cytyndeb rhwng Llywelyn ap Gruffudd a Gruffudd ap Gwenwynwyn, ac mae'n bosibl ei fod wedi'i llunio yng Nghastell y Bere. Atgyweiriwyd y castell ac ychwanegwyd llenfur arall gan y Saeson. Ond yn 1294 neu 1295 syrthiodd i'r Cymry dan Madog ap Llywelyn a chafodd ei losgi'n ulw.
Adeiladwaith
golyguCastell y Bere yw'r mwyaf ei faint a'r mwyaf cymhleth ac uchelgeisiol o gestyll tywysogion Gwynedd. Daearyddiaeth ei safle a benderfynnodd ei gynllun, sy'n afreolaidd iawn ac yn dilyn ffurf y graig. Roedd yn gastell mawr yn ôl safonnau cestyll Gwynedd. Cafodd ei addurno â cherfluniau - dau farchog carreg yn gwarchod y fynedfa, er enghraifft - teiliau paentiedig a ffenestri gwydr lliw, sy'n awgrymu ei fod yn llys a chanolfan weinyddol yn ogystal ag amddiffynfa. Yn wir, fel amddiffynfa doedd gan y castell ddim llawer i'w amddiffyn yn uniongyrchol.
Yn y de codwyd tŵr ar wahân a gynhwysai ystafelloedd preifat, yn ôl pob tebyg. Codwyd tŵr cadarn arall yn y pen gogleddol. Rhwng y ddau dŵr hyn roedd 'na dŵr arall o siâp betryal - yr amddiffynwaith gwreiddiol, mae'n debyg. Codwyd tŵr crwn i'r gogledd-ddwyrain ohono. Rhedai llenfur trwchus rhwng y tyrau hyn, ag eithrio'r Tŵr Deheuol. Roedd y brif fynedfa yn wynebu'r gorllewin a glannau'r afon. Amddiffynid y borth gan ffosydd a phontydd codi.
Mynediad
golyguGellir cyrraedd Castell y Bere ar hyd Dyffryn Dysynni o'r A493, gan ddilyn un o'r ddwy lôn i fyny'r dyffryn, neu o'r lôn sy'n rhedeg o Abergynolwyn i Lanfihangel-y-Pennant.
Llyfryddiaeth
golygu- Richard Avent, Cestyll Tywysogion Gwynedd (Caerdydd, 1983)
- Paul R. Davis, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Davies, John (2007). Hanes Cymru. t. 148. ISBN 9780140284768.
Wedi marwolaeth Llywelyn [ap Gruffudd], arweiniwyd y gwrthsafiad Cymreig gan Ddafydd, ei frawd, ac arddelodd yntau'r teitl Tywysog Cymru. Castell y Bere ym Meirionydd, a ildiodd i'r lluoedd Seisnig ar 25 Ebrill 1283, oedd y man olaf i wrthsefyll lluoedd Brenin Lloegr. Cipiwyd Dafydd ar lechweddau Cadair Idris ar 22 Mehefin a dioddefodd farwolaeth erchyll bradwr yn Amwythig ar 2 Hydref 1283.