Afon Honddu (Epynt)
Afon ym Mrycheiniog, de Powys, yw Afon Honddu. Mae'n tarddu i'r de o Ddrum Ddu (474 m), un o gopaon Mynydd Epynt, tua 5 milltir i'r de-orllewin o dref Llanfair-ym-Muallt. Afon Honddu yw un o ledneintiau pwysicaf afon Wysg. Ei hyd yw tua 11 milltir.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52°N 3.4°W |
- Gweler hefyd Afon Honddu (gwahaniaethu).
Llifa'r afon ar gwrs i gyfeiriad y de o lethrau Epynt i lawr trwy gwm deniadol i Aberhonddu lle mae'n llifo i afon Wysg. Mae'r aber yn yr enw Aberhonddu yn cyfeirio at aber neu 'geg' yr afon honno yn afon Wysg.
Ceir sawl pentref ar lan yr afon, sef (o'r gogledd i'r de): Pentref Dolau Honddu, Capel Uchaf, Castell Madog, Capel Isaf, Pwllgloyw a Llandefaelog Fach.