Pentre-Dolau-Honddu

ardal ym Mhowys, Cymru
(Ailgyfeiriad o Pentref Dolau Honddu)

Safle aneddiad bach yng nghymuned Merthyr Cynog, Powys, Cymru, yw Pentre-Dolau-Honddu. Saif yn ardal Brycheiniog yn uchel ar lethrau deheuol Mynydd Epynt ger tarddle Afon Honddu, un o ledneintiau pwysicaf Afon Wysg. Fe'i lleolir tua 4 milltir i'r de-orllewin o dref Llanfair-ym-Muallt ar bwys lôn wledig sy'n dringo i gyfeiriad Epynt o Aberhonddu, tua 9 milltir i'r de, ac sy'n ei gysylltu hefyd â Chwm Irfon i'r gogledd. Y pentref agosaf yw Capel Uchaf, 2 filltir i'r de.

Pentre-Dolau-Honddu
Mathcefn gwlad Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.0833°N 3.4711°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN993438 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Bellach dyma leoliad canolfan ymwelwyr ar gyfer Llwybr Epynt.[1]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[3]

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.