Capel Isaf

pentref ym Mhowys

Pentref bychan gwledig yng nghymuned Honddu Isaf, Powys, Cymru, yw Capel Isaf[1] (Saesneg: Lower Chapel).[2] Saif yn ardal Brycheiniog i'r de o Fynydd Epynt ar lan afon Honddu, un o ledneintiau pwysicaf afon Wysg.

Capel Isaf
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.011284°N 3.414202°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO028358 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Lleolir y pentref ar bwys lôn wledig sy'n dringo i gyfeiriad Epynt o Aberhonddu, tua 4 milltir i'r de. Y pentrefi cyfagos yw Capel Uchaf a Chastell Madog i'r gogledd, a Pwllgloyw, a Llandefaelog Fach i'r de, ar y lôn i Aberhonddu.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 31 Rhagfyr 2021
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-31.
  4. Gwefan Senedd y DU
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.