Afon Ieithon
Afon yng nghanolbarth Powys yw Afon Ieithon (hefyd Afon Ithon). Mae'n tarddu yn y bryniau i'r de-orllewin o'r Drenewydd ac yn llifo ar gwrs deheuol i ymuno yn Afon Gwy ger Llanfair-ym-Muallt. Ei hyd yw tua 25 milltir.
Math |
afon, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Powys ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
173.77 ha ![]() |
Cyfesurynnau |
52.2167°N 3.45°W, 52.310443°N 3.357666°W ![]() |
Aber |
Afon Gwy ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth |
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
Manylion | |
CwrsGolygu
Mae'r afon yn casglu ffrydiau ger bryn Rhyddhywel, bron i 2000 troedfedd i fyny yn y bryniau. Llifa ar gwrs deheuol heibio i bentrefi Llanbadarn Fynydd, Llananno, Llanbister a Llanddewi Ystradenni. Mae ffordd yr A483 yn rhedeg yn gyfochrog iddi am y rhan yma o'i chwrs. Llifa dyfroedd Afon Aran i mewn iddi ger Crossgates. Ar ôl hynny mae'n cymryd cwrs ymddolennol iawn i'r dwyrain ac yna i'r gorllewin a heibio i dref Llandrindod i lifo i mewn i Afon Gwy tua milltir i'r de o Bontnewydd ar Wy, 4 milltir i'r gogledd o Lanfair-ym-Muallt.