Llananno

pentref ym Mhowys

Pentref yng nghymuned Llanbadarn Fynydd, Powys, Cymru, yw Llananno.[1][2] Saif yng nghanolbarth y sir ar lannau Afon Ieithon ac ar ffordd yr A483 fymryn i'r gogledd o bentref Llanbister, tua 9 milltir i'r gogledd o dref Llandrindod a 11 milltir i'r de o'r Drenewydd.

Llananno
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.361034°N 3.330762°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO095745 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[4]

Eglwys Sant Anno, Llananno
Sgrîn canoloesol Eglwys Sant Anno

Eglwys Sant Anno golygu

Mae nawddsant y plwyf, Sant Anno (neu Amo) yn sant anhysbys. Bu eglwys Rhosyr ym Môn yn gysegredig i Amo/Anno ar un adeg hefyd a cheir Ffynnon Anno ger Tref-y-clawdd. Cofrestrwyd Eglwys Sant Anno gan Cadw fel adeilad rhestredig Gradd II* ar 29 Gorffennaf 2004 (Rhif Cadw: 82991). Saif ar ochr orllewinol i'r A483 ger Fferm Glanrafon. Ailadeiladwyd yr hen fferm Ganoloesol yn 1876-7 gan David Walker, pensaer o Lerpwl, ond cadwyd y sgrîn pren o'r 15g yn saff gan ei hail-leoli. Ystyrir hon yn un o'r sgriniau pren mwyaf coeth yng Nghymru.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 30 Mehefin 2019
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU