Alan Brown
Gwleidydd o'r Alban yw Alan Brown (ganwyd 12 Awst 1970) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Kilmarnock a Loudoun; mae'r etholaeth yn Nwyrain Swydd Ayr, Gogledd Swydd Ayr a De Swydd Ayr, yr Alban. Mae Alan Brown yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.
Alan Brown | |
| |
Cyfnod yn y swydd 7 Mai 2015 – Mai 2022 | |
Rhagflaenydd | Cathy Jamieson Y Blaid Lafur |
---|---|
Geni | Kilmarnock, Yr Alban | 12 Awst 1970
Cenedligrwydd | Albanwr |
Etholaeth | Kilmarnock a Loudoun |
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Priod | Ydy |
Plant | Dau fab |
Alma mater | Prifysgol Glasgow |
Galwedigaeth | Gwleidydd Gweithiwr sifil Cynghorydd |
Gwefan | http://www.snp.org/ |
Fe'i ganed yn Kilmarnock, Dwyrain Swydd Ayr yn 1970. Graddiodd gydag Anrhydedd ym Mhrifysgol Glasgow - mewn peirianneg sifil. Yna gweithiodd yn y sector preifat a chyhoeddus.[1]
Yn ei oriau hamdden mae'n cefnogi Clwb pêl-droed Kilmarnock.
Fe'i etholwyd am y tro cyntaf fel cyngorydd sir etholaeth Dwyrain Swydd Ayr (ward Dyffryn Irvine) yn 2007, a hynny fel aelod o'r SNP. Fe'i ail-etholwyd yn 2012.
Etholiad 2015
golyguYn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[2][3] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Alan Brown 30000 o bleidleisiau, sef 55.7% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 29.7 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 13638 pleidlais.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ www.thenational.scot; adalwyd 11 Gorffennaf 2015
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
- ↑ Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Cathy Jamieson |
Aelod Seneddol dros Kilmarnock a Loudoun 2015 – presennol |
Olynydd: presennol |