Kilmarnock a Loudoun (etholaeth seneddol y DU)

Mae Kilmarnock a Loudoun yn etholaeth Sirol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 1983 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny. Mae rhan o'r etholaeth o fewn y siroedd canlynol: Dwyrain Swydd Ayr, Gogledd Swydd Ayr a De Swydd Ayr. Mae'r etholaeth yn cynnwys hanner gogleddol Dwyrain Swydd Ayr a'r trefi Kilmarnock a Loudoun. Ceir etholaeth arall, o'r un enw sy'n ethol cynrychiolydd ar gyfer Senedd yr Alban, ond nid yw'r ffiniau'n cydfynd yn union.

Kilmarnock a Loudoun
Etholaeth Sirol
ar gyfer Tŷ'r Cyffredin
Outline map
Ffiniau Kilmarnock a Loudoun yn Yr Alban.
Awdurdodau unedol yr Alban Dwyrain Swydd Ayr
Etholaeth gyfredol
Ffurfiwyd 1983
Aelod Seneddol Alan Brown SNP
Nifer yr aelodau 1
Crewyd o Kilmarnock
Gorgyffwrdd gyda:
Etholaeth Senedd Ewrop Yr Alban

Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan Alan Brown, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, daliodd ei afael yn y sedd. Gwnaeth yr un peth yn 2019.

Aelodau SeneddolGolygu

Etholiad Aelod Plaid
1983 Willie McKelvey Llafur
1997 Des Browne Llafur
2010 Cathy Jamieson Llafur-Cydweithredol
2015 Alan Brown SNP
2017 Alan Brown SNP
2019 Alan Brown SNP

TrefiGolygu

Mae'r trefi canlynol o fewn yr etholaeth:

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015