Albert Gladstone
Roedd Syr Albert Charles Gladstone, 5ed Barwnig, MBE, DL (28 Hydref 1886 - 2 Mawrth 1967) yn ŵr busnes o Gymru ac yn rhwyfwr a enillodd fedal aur yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1908.
Albert Gladstone | |
---|---|
Ganwyd | 28 Hydref 1886 Penarlâg |
Bu farw | 2 Mawrth 1967 Fordingbridge |
Man preswyl | Hyde Park Place |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | rhwyfwr |
Swydd | Sheriff of the County of London, director of the Bank of England |
Taldra | 183 centimetr |
Pwysau | 73 cilogram |
Tad | Stephen Edward Gladstone |
Mam | Annie Crosthwaite Wilson |
Gwobr/au | MBE |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Ganwyd Gladstone yng Nghastell Penarlâg, Sir y Fflint yn fab hynaf y Parchedig Stephen Edward Gladstone ac Annie Crosthwaite Wilson, ei wraig. Roedd yn ŵyr i'r Prif Weinidog, William Ewart Gladstone.[1] Yn deuddeg mlwydd oed, mynychodd angladd wladol ei daid.[2]
Addysgwyd Gladstone yng Ngholeg Eton a graddiodd o Eglwys Crist, Rhydychen ym 1909 gyda gradd BA .
Yn ystod ei gyfnod yn Rhydychen roedd yn aelod o'r tîm rhwyfo wyth dyn gan rwyfo i Rydychen pedair gwaith yn Ras Gychod Rhydychen a Chaergrawnt rhwng 1906 a 1909. Roedd yn aelod o dîm rhwyfo Coleg Eglwys Crist a enillodd y Grand Challenge Cup yn Regata Frenhinol Henley ym 1908. Pedair wythnos yn ddiweddarach, roedd yn aelod o'r criw o wyth a enillodd y fedal aur am rwyfo dros Brydain Fawr yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1908.[3]
Gwasanaethodd Gladstone yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ym Mesopotamia [4] a Gallipoli, ac fe'i crybwyllwyd mewn cad lythyrau. Dyrchafwyd ef yn Gapten yn yr Ail / 5ed Catrawd Reiffl y Gurkha Brenhinol (Byddin y Ffiniau), yng Ngwarchodfa Byddin India, ac fe'i penodwyd yn Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) ym 1919.[5]
Roedd Gladstone yn ddyn busnes llwyddiannus ac yn cynnal llawer o swyddi pwysig megis Cyfarwyddwr Banc Lloegr o 1924 i 1947 ac yn uwch bartner yng nghwmni Ogilvy, Gillanders & Company, marsiandwyr yn Nwyrain India. Fe'i penodwyd yn Rhaglaw Dinas Llundain ac yn Uchel Siryf Sir Llundain ym 1929. Ym 1935 daeth yn Gwnstabl Castell y Fflint gan gadw'r swydd hyd ei farwolaeth.[6] Etifeddodd y farwnigaeth wedi marwolaeth ei gefnder, Syr John Evelyn Gladstone, ar 12 Chwefror 1945.[7]
Bu farw Gladstone yn Fordingbridge, Hampshire yn 80 oed. Gan nad fu'n briod ac nid oedd ganddo fab, pasiodd y teitl i'w frawd iau, Charles Andrew Gladstone, a ddaeth yn 6ed Barwnig.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Melville Henry de Massue (1994). The Blood Royal of Britain. Baltimore: Genealogical Pub Co. ISBN 0-8063-1431-1
- ↑ The London Gazette. 22 Mehefin 1898. t. 3845 adalwyd 2 Rhagfyr 2018
- ↑ Sports Reference Olympic Sports – Albert Gladstone Archifwyd 2020-04-18 yn y Peiriant Wayback adalwyd 2 Rhagfyr 2018
- ↑ "PERSONAL - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1919-03-21. Cyrchwyd 2018-12-02.
- ↑ The London Gazette. 28 Chwefror 1919. t. 2995 adalwyd 2 Rhagfyr 2018
- ↑ "Sir Albert Charles Gladstone of Fasque and Balfour, 5th Bt" adalwyd 2 Rhagfyr 2018
- ↑ Burke's Peerage, Baronetage & Knightage, 107th edition, tudalen 1558