Castell Penarlâg
Castell Normanaidd yw Castell Penarlâg a godwyd ar safle ger pentref Penarlâg, Sir y Fflint gan Iarll Caer. Mae'n sefyll ar ben bryncyn lle ceir olion bryngaer o Oes yr Haearn.
Math | adfeilion castell |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ystâd Castell Hawarden |
Lleoliad | Ystâd Castell Hawarden |
Sir | Sir y Fflint |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 75.7 metr |
Cyfesurynnau | 53.1809°N 3.01985°W |
Cod OS | SJ3190765367 |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | FL016 |
Ni wyddom ddim am hanes cynnar y safle ond cofnodir castell mwnt a beili Normanaidd yno mewn cofnod Seisnig o 1205.[1] Cipiwyd y castell a'i ddinistrio gan y Tywysog Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru yn 1265.[2] Ailadeiladwyd y castell gan Edward I o Loegr yn 1277 fel rhan o gyfres o gestyll Seisnig yng ngogledd-ddwyrain Cymru gyda'r bwriad o ostwng y Cymry.[3]
Fe'i cipiwyd a'i dinistrio gan Dafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn ap Gruffudd, mewn ymosod ar Sul y Blodau[4] (21 Mawrth 1282)[5], gweithred a fu'n un o symbylau Ail Ryfel Annibyniaeth Cymru.[6] Mae'n debyg mai o Gastell Caergwrle, castell Cymreig a godwyd mewn ymateb i godi Castell Penarlâg, y gweithredodd Dafydd.[7]
Cipwyd y castell gan y Cymry unwaith eto yn 1294 yn nyddiau cynnar gwrthryfel Madog ap Llywelyn.[8]
Ailadeiladwyd y castell gan y Saeson yn y cyfnod 1297-1329 ac mae'r rhan fwyaf o'r hyn sy'n sefyll heddiw yn dyddio o'r cyfnod hwnnw, yn cynnwys y gorthwr a'r llenfur. Bu cwffio yma yn y 1640au yn ystod Rhyfeloedd Cartref Lloegr hefyd. Adeiladwyd gerddi ac atgyweirio'r castell yn y 19eg ganrif pan godwyd ffug-gastell Penarlâg. Mae'n sefyll ar dir y castell newydd ac ar agor i'r cyhoedd ar y Sul yn unig.[9]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Helen Burnham, Clwyd and Powys. Ancient and Historic Wales. (Cadw/HMSO, 1995), tud. 195.
- ↑ R. R. Davies, The Age of Conquest: Wales 1063-1415 (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1991), tud. 315.
- ↑ The Age of Conquest: Wales 1063-1415, tud. 338.
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; adalwyd 21 Mawrth 2016
- ↑ Gwyddoniadur Cymru, tud. 261; Gwasg Prifysgol Cymru (2008)
- ↑ Paul R. Davies, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988), tud. 18.
- ↑ Castles of the Welsh Princes, tud. 31.
- ↑ The Age of Conquest: Wales 1063-1415, tud. 383.
- ↑ Clwyd and Powys, tud. 195.