Alejo Carpentier
Nofelydd, dramodydd ac ysgrifwr Sbaeneg a cherddolegydd o Giwba oedd Alejo Carpentier y Valmont (26 Rhagfyr 1904 – 24 Ebrill 1980). Mae'n nodedig fel un o arloeswyr realaeth hudol yn llên America Ladin yng nghanol yr 20g.
Alejo Carpentier | |
---|---|
Ganwyd | Alejo Carpentier Valmont 26 Rhagfyr 1904 Lausanne |
Bu farw | 24 Ebrill 1980 o canser 7fed arrondissement Paris |
Dinasyddiaeth | Ciwba, Ffrainc |
Galwedigaeth | llenor, newyddiadurwr, awdur ysgrifau, cerddolegydd, beirniad llenyddol, diplomydd, academydd, cyhoeddwr |
Swydd | llysgennad, cultural attaché |
Adnabyddus am | The Kingdom of this World, Explosion in a Cathedral, The Harp and the Shadow |
Mudiad | Swrealaeth, magic realism |
Gwobr/au | Gwobr Miguel de Cervantes, Prix mondial Cino Del Duca, Gwobr Médicis am lenyddiaeth dramor, prix du meilleur livre étranger, Alfonso Reyes International Prize |
Ganwyd yn Lausanne, y Swistir, i Ffrancwr a mam Rwsiaidd. Ymfudodd y teulu i La Habana pan oedd Alejo yn faban. Ffrangeg oedd ei iaith gyntaf, a bu'n siarad Sbaeneg gydag acen Ffrengig. Astudiodd mewn ysgolion preifat ac ym Mhrifysgol La Habana. Yn y 1920au, Carpentier oedd un o arweinwyr y mudiad Affro-Giwbaiadd a geisiodd ymgorffori traddodiadau Affricanaidd yn niwylliant yr avant-garde yng Nghiwba, yn enwedig cerddoriaeth, dawns, a'r theatr. Cyfansoddodd Carpentier sawl libreto opera a bales gyda themâu Affricanaidd-Giwbaiadd. Cyhoeddodd y nofel ¡Ecue-Yamba-O! yn 1933.
Ffoes Carpentier Giwba yn 1928 i ddianc rhag llywodraeth yr unben Gerardo Machado, ac ymsefydlodd ym Mharis. Dychwelodd i La Habana yn 1939, ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd. Symudodd i Caracas, Feneswela, yn 1945. Cyhoeddodd yr astudiaeth gerddorol La música en Cuba yn 1946. Mae ei ffuglen yn genre realaeth hudol yn cynnwys y nofelau El reino de este mundo (1950) a Los pasos perdidos (1953) a'r gyfrol o straeon byrion Guerra del tiempo (1958).
Dychwelodd Carpentier i La Habana yn 1959 yn sgil Chwyldro Ciwba. Gwasanaethodd yn ddiplomydd dan lywodraeth Fidel Castro ym Mharis o ganol y 1960au hyd ddiwedd ei oes. Yng nghyfnod diweddarach ei yrfa lenyddol fe drodd at ffuglen ysgafn, megis Concierto barroco (1974), El recurso del método (1974), ac El arpa y la sombra (1979). Bu farw ym Mharis yn 75 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Alejo Carpentier. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Medi 2019.