Alessandro Manzoni
Bardd a nofelydd o'r Eidal oedd Alessandro Manzoni (7 Mawrth 1785 – 22 Mai 1873) sydd yn nodedig am ei nofel hanesyddol I promessi sposi a ystyrir yn un o glasuron llên yr Eidal. Roedd yn genedlaetholwr Eidalaidd brwd yn ystod cyfnod y Risorgimento, ac mae ei farddoniaeth yn cyfleu ei Gatholigiaeth.
Alessandro Manzoni | |
---|---|
Ganwyd | Alessandro Francesco Tommaso Antonio Manzoni 7 Mawrth 1785 Milan |
Bu farw | 22 Mai 1873 Milan |
Galwedigaeth | llenor, bardd, gwleidydd, nofelydd, dramodydd |
Swydd | member of the Chamber of Deputies of the Kingdom of Sardinia |
Plaid Wleidyddol | Historical Right |
Tad | Giovanni Verri |
Mam | Giulia Beccaria |
Priod | Enrichetta Manzoni Blondel, Teresa Borri |
Plant | Pietro Luigi Manzoni |
Llinach | House of Manzoni |
llofnod |
Bywyd cynnar (1785–1810)
golyguGaned ym Milan, Dugiaeth Milan, yn fab i Pietro Manzoni, un o'r fân-bendefigaeth yn Lombardi, a'i wraig Giulia Beccaria, a oedd yn ferch i Cesare Bonesana, Marchese di Beccaria, diwygiwr cyfreithiol yn oes yr Oleuedigaeth. Mae'n debyg nad oedd Pietro yn dad biolegol Alessandro, ac ym 1792 gwahanodd Pietro a Giulia wedi saith mlynedd yn briod. Treuliodd Alessandro ei addysg mewn ysgolion preswyl Catholig, ac o ganlyniad i'r profiad hwnnw fe fagodd deimladau gwrthlglerigol yn ei ieuenctid.[1]
Ym 1805 aeth Manzoni i fyw gyda'i fam, a'i chariad, ym Mharis. Yn ystod ei bum mlynedd yno bu'n cymdeithasu â deallusion a radicalwyr y ddinas, gan gynnwys yr idéologues, a chofleidiodd sgeptigiaeth Voltairaidd.[2] Priododd â Henriette Blondel, merch 16 oed o Galfinydd, ym 1808.[1]
Gyrfa lenyddol (1810–60)
golyguTrodd Henriette yn Gatholig yn fuan wedi'r briodas, gyda chymorth offeiriad Jansenaidd, ac ym 1810 dychwelodd Manzoni ei hun at y ffydd ac ailgysegrwyd y briodas yn ôl y ddefod Gatholig Rufeinig.[1][3] Symudasant i fila ym mhentref Brusuglio, ar gyrion Milan, ac yno cyfansoddodd Manzoni ei gylch o gerddi crefyddol, yr Inni sacri.[2] Er iddo droi'n ôl at Gatholigiaeth, parhaodd i fynegi taliadau gwrthglerigiol, er enghraifft yn ei gerdd "Il trionfo della libertà" (1821). Yn y cyfnod hwn ysgrifennodd hefyd ei draethawd Osservazioni sulla morale cattolica (1819), yr awdl Marzo 1921, awdl er cof am Napoleon, Il cinque maggio (1822), a dwy drasiedi hanesyddol a ysbrydolwyd gan waith Shakespeare, Il conte di Carmagnola (1820) ac Adelchi (1822).
Cyhoeddwyd campwaith Manzoni, I promessi sposi, mewn tair cyfrol o 1825 i 1827. Dyma nofel a leolir yn Lombardi yn nechrau'r 17g ac yn ymwneud â gwrthryfel y Milaniaid yn erbyn y Hapsbwrgiaid yn y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain (1618–48) a'r Pla Mawr (1629–31). Fe'i ysgrifennwyd mewn iaith debyg i'r hyn a glywid ar lafar yn Fflorens, mewn ymgais i ffurfio ffurf lenyddol ar Eidaleg a fyddai'n eglur i ddarllenwyr ar draws yr Eidal. Erbyn yr argraffiad olaf o I promessi sposi a olygwyd ganddo (1840–42), llwyddodd Manzoni i ddileu'r holl briod-ddulliau hen ffasiwn o'i waith, a daeth y nofel hon yn fodel i lenorion Eidaleg iau.
Cafodd Alessandro a Henreitte 10 o blant, a bu farw wyth ohonynt yn ystod oes y tad. Bu farw Henriette ym 1833.[1]
Diwedd ei oes (1860–73)
golyguPenodwyd Manzoni yn seneddwr yn senedd gyntaf Teyrnas yr Eidal ym 1860. Fe'i urddwyd yn ddinesydd anrhydeddus Rhufain ym 1872.[1] Bu farw ym Milan yn 88 oed.[2] Mynychwyd ei angladd gwladwriaethol gan Umberto, Tywysog Safwy.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 (Saesneg) "Manzoni, Alessandro" yn Encyclopedia of Modern Europe: Europe 1789-1914. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 1 Mai 2020.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Alessandro Manzoni. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Mai 2020.
- ↑ (Saesneg) "Alessandro Manzoni" yn Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 1 Mai 2020.