Gosodwyd sylfeini yr iaith Eidaleg lenyddol fodern gan Dante Alighieri o Fflorens. Ei waith enwocaf yw'r Divina Commedia, a ystyrir yn un o brif gampweithiau Ewrop yn y Canol Oesoedd. Llenorion amlwg eraill yw Giovanni Boccaccio, Giacomo Leopardi, Alessandro Manzoni, Torquato Tasso, Ludovico Ariosto, a Petrarch. Ymysg llenorion diweddar yr Eidal, enillwyd Gwobr Lenyddol Nobel gan Giosuè Carducci (1906), Grazia Deledda (1926), Luigi Pirandello (1936), Salvatore Quasimodo (1959), Eugenio Montale (1975) a Dario Fo (1997).

Ymysg athronwyr amlwg yr Eidal mae Giordano Bruno, Marsilio Ficino, Niccolò Machiavelli a Giambattista Vico.

Y Dadeni golygu

 
Y Cardinal Pietro Bembo, un o fawrion y llenyddiaeth Eidaleg yn ystod y Dadeni.

Ymgododd nodweddion cynharaf y Dadeni Dysg yn yr Eidal yn y 13g a 14g. Nodweddir gan yr adferiad o ddyneiddiaeth a dylanwadau eraill llên glasurol Roeg a Lladin. Gosododd Dante, Petrarch a Boccaccio sail i ysblander lenyddol yr Eidal yn y 16g. Llenor blaenaf y ganrif honno oedd Pietro Bembo, meistr y delyneg a'r soned Betrarchaidd ac yn anad dim yn feirniad chwaeth y llên Eidaleg, a lewyrchodd mudiad y Dadeni ar draws cyfandir Ewrop.

Llenyddiaeth gynnar golygu

Dolce stil nuovo golygu

Yn Fflorens y 13g fe ddatblygodd ffurf ar y delyneg ramant o'r enw dolce stil nuovo ("pêr arddull newydd"). Prif gyfansoddwyr y mudiad hwn oedd Guido Guinizelli, Guido Cavalcanti, a Cino da Pistoia.

 

Prif nodweddion y dolce stil nuovo yw:

  • Mynegiant gonest o'r teimladau, gan efelychu esiampl Sant Ffransis o Assisi o delyneg grefyddol a dynol.
  • Natur gysefin mewn cynghanedd â'r ddynolryw, delfryd glasurol y locus amoenus megis Gwynfa Eden, Meysydd Elysiwm neu Arcadia.
  • Perseinedd a cheinder iaith.
  • Amgyffred cariad yn brofiad trosgynnol sy'n rhoi doethindeb, dedwyddwch a chysylltiad dwyfol.
  • Personoliad o'r ddelfryd neo-Blatonaidd yw'r ferch: enaid angylaidd, pur, y donna angelica.
  • Iaith lafar Fflorens, neu dafodiaith Tysgani.

Dwyfol Gân Dante golygu

Enghraifft glasurol o ddyneiddiwr oedd Dante Alighieri (1265-1321). Ysgrifennodd yn Lladin ac hefyd llafariaith Fflorens, gan roi i iaith y werin fynegiant llenyddol a arweiniodd at ddatblygiad yr iaith Eidaleg.

Adeg y trawsnewid Lladin gwerinol i'r Dysganeg, ysgrifennodd amddiffynniad o'r iaith lafar yn Lladin, De vulgari eloquentia (tua 1304). Dilynodd ei bregeth ei hun, gan arloesi safonau'r iaith Romáwns a elwir heddiw yn Eidaleg: La Vita Nuova (tua 1293) a La Commedia (1320).

  • Enghraifft glasurol o'r dolce stil nuovo yw La Vita Nuova. Trwy gyfrwng y soned a'r delyneg mewn cydwead â'r rhyddiaith eglurhaol, fe ddisgrifai'r awdur ei gariad Platonaidd at Beatrice.
  • Campwaith Dante, ac un o'r gweitihiau pwysicaf yn y canon Ewropeaidd, yw La Commedia neu La Divina Commedia (Dwyfol Gân Dante neu'r Gomedi Ddwyfol), aralleg fawreddog ar fesur y triban cadwyn, ffurf farddonol a luniodd Dante o'i ben a'i bastwn ei hun. Yn y gerdd hon mae'r awdur, yng nghwmni'r bardd Lladin Fyrsil, yn crwydro Uffern a Phurdan ac yna mae Beatrice yn ei arwain drwy Baradwys.

Nodir La Commedia am egni ei mynegiant, amrywiaeth ei emosiynoldeb, a gwreiddioldeb ei delweddaeth. Thema ganolog y gerdd yw tynged drosgynnol y ddynolryw a myfyrio ar yr enaid, a welir trwy fydolwg sy'n cyfuno'r Gristionogaeth a diwylliant y gwareiddiad Groeg-Rufeinig.

Dyma'r soned Tanto gentile e tanto onesto pare o La Vita Nuova, enghraifft o ganu serch Dante a rhagesiampl glir o gymeriadaeth angylaidd y fenyw yn ystod y Dadeni:

 
Portread o Dante gan Botticelli.

Tanto gentile e tanto onesta pare
la donna mia quand'ella altrui saluta,
ch'ogne lingua deven tremando muta,
e li occhi no l'ardiscon di guardare.

Ella si va, sentendosi laudare,
benignamente d'umiltà vestuta;
e par che sia una cosa venuta
da cielo in terra a miracol mostrare.

Mostrasi sì piacente a chi la mira,
che da per li occhi una dolcezza al core,
che'ntender non la può chi non la prova;

e par que de la sua labbia si mova
un spirito soave, pien d'amore,
che va dicendo a l'anima: sospira.

Petrarch a'i Canzoniere golygu

Brodor o Arezzo oedd Francesco Petrarca neu Petrarch (1304-1374), ac efe yw cynddelw'r dyneiddiwr cynnar y Dadeni. Awdur toreithiog ydoedd yn Lladin ac Eidaleg, yn feistr sawl mesur ac yn ymdrin ag amryw bwnc a thema. Traddodai hanes y Rhyfeloedd Pwnig yn Lladin yn ei arwrgerdd anorffen Africa. Y delyneg oedd ei brif rodd i'r Dadeni, a gosododd ei gampwaith Il Canzoniere (1350) esiampl i feirdd yr Eidal a thu hwnt. Cyfansoddodd Il Canzoniere a cherddi eraill, megis yr aralleg Trionfi, yn Eidaleg y werin.

  • Casgliad yw'r Canzoniere o 317 o sonedau, 29 o canzoni, 9 sestina, 4 cerdd fadrigal, a 7 ballata sydd i gyd yn canu ei gariad at Laura, merch nad yw'n teimlo'r un serch at yr awdur. Mynegir dyneiddiaeth y teimladau mewn modd drwy'r dolce stil nuovo, ac ar batrwm La Vita Nuova yn arbennig. Megis Beatrice diddordeb Dante, merch go iawn oedd Laura, serch hynny'n ddelfryd ni ellir ei hennill, a'r hon sy'n peri gwrthdaro emosiynol y bardd. Disgrifai Petrarch ei serch yn nhermau'r meddwl, mewn modd cyn-seicolegol hyd yn oed, ac yn fanwl iawn. Dilynai'r mynegiant emosiynol hwn gan feirdd Ewrop ers canrifoedd.

Dyma soned sy'n nodweddiadol o delyneg Petrarch:

 
Darluniad o Laura a Petrarch yn Il Canzionere.

Onde tolse Amor l’oro, et di qual vena,
per far due trecce bionde? e ’n quali spine
colse le rose, e ’n qual piaggia le brine
tenere et fresche, et die’ lor polso et lena?

Onde le perle, in ch’ei frange et affrena
dolci parole, honeste et pellegrine?
onde tante bellezze, et sí divine,
di quella fronte, piú che ’l ciel serena?

Da quali angeli mosse, et di qual spera,
quel celeste cantar che mi disface
sí che m’avanza omai da disfar poco?

Di qual sol nacque l’alma luce altera
di que’ belli occhi ond’io ò guerra et pace,
che mi cuocono il cor in ghiaccio e ’n fuoco?

Boccaccio a'i Decamerone golygu

 
Naw o gymeriadau'r Decamerone mewn darluniad gan John William Waterhouse (1916).

Giovanni Boccaccio (1313-1375) yn ôl y traddodiad yw dyfeisiwr y novella, stori fer hir ar bwnc serch gan amlaf. Casgliad o gant o'r fath straeon yw'r Decamerone, sy'n trafod themâu cariad, deallusrwydd, a ffawd.

Byd y werin yw'r golygfeydd ac felly ceir straeon masweddus, y digrif a'r dwys, sy'n adlewyrchu'r newidiadau cymdeithasol yn Fflorens ar y pryd. Yn aml mae'r gwragedd yn y Decamerone yn twyllo'u gwŷr. Dodir penillion o ganeuon gwerin Eidaleg mewn testun sawl stori.

Daw pwysigrwydd y Decamerone yn bennaf o'i rhyddiaith gain a chraff, a osododd patrwm i lenorion hwyrach y Dadeni i'w efelychu. Yn ogystal, y Decamerone oedd cynffurf y nofel lys, cyfrwng y novellieri Eidaleg, er enghraifft Mateo Bandello a Giraldi Cinthio, ac hefyd Sbaenwyr megis Juan de Timoneda (El Patrañuelo) a Cervantes (Novelas ejemplares).

Yr 16eg ganrif golygu

Dante, Petrarch a Boccaccio oedd y triwyr penigamp a sbardunodd ffyniant llenyddol yr Eidal yn y 16g. Llenor blaenllaw y ganrif hon oedd Pietro Bembo, cyfansoddwr yn null Petrarch ond yn anad dim yn feirniad o fri ac yn safonwr y llên genedlaethol.

 
Rugiero salvando a Angélica (Ingres, 1819).
  • Mae'n bosib taw Ludovico Ariosto oedd mydryddwr disgleiriaf ei oes. Yn ei gerdd ffantasi epig Orlando furioso, codai pen llinyn stori Orlando Innamorato gan i'w awdur Matteo Maria Boiardo peidio â gorffen y rhamant honno. Mae Orlando yn cyfateb i Rolant yn chwedloniaeth Ffrainc, a chylchoedd myth a llên Ffrainc ac Ynys Brydain oedd yr ysbrydoliaeth am Orlando'r Eidalwyr. Traddodai anturiaethau'r marchog Orlando wrth iddo geisio ennill cariad Angelica ac yn mynd yn wallgof ar yr un pryd. Mae Angelica mewn cariad â'r milwr o Fwslim Medoro, ac yng nghynddaredd ei genfigen mae Orlando'n difetha popeth yn ei ffordd. Mae ei gyfaill Astolfo yn teithio i'r lleuad ar gefn marchriffwn i ganfod elicsir callineb. Trwy gydol yr adroddiant, a chanddo iaith flodeuog a ffansïol, câi'r gerdd ei britho â straeon byrion. Cafodd Orlando furioso mwy o ddylanwad na cherdd Boiardo, ac yn wrthrych sawl cyfieithiad, dilyniant, efelychiad, ac ailwampiad. Campwaith Ariosto oedd prif batrwm yr arwrgerdd yn llenyddiaeth y Dadeni.
  • Bardd a ffynnai yn ail hanner y 16g oedd Torquato Tasso. Ysgrifennodd yr arwrgerdd La Gerusalemme liberata, sy'n adrodd hanes cipio Jerwsalem gan Godefroid o Fouillon yn y Groesgad Gyntaf.

Pwrpas rhyddiaith addysgol y Dadeni oedd i ddisgrifio a chyfarwyddo normau newydd ysbryd yr oes. Ymhlith y clasuron mae Il Cortegiano gan Baldassare Castiglione, llyfr moes y llys a'i ddefod, ac Il Principe gan Niccolò Machiavelli, traethawd ar bwnc damcaniaeth wleidyddol.

Cyfeiriadau golygu