Alex Davies
Cenedlaetholwr croenwyn o Gymro yw Alex Davies (ganwyd 1994 neu 1995). Ef yw un o sefydlwyr National Action, y grŵp adain dde eithafol gyntaf i'w gwahardd yn y Deyrnas Unedig ers yr Ail Ryfel Byd.[1]
Alex Davies | |
---|---|
Ganwyd | 1990s |
Alma mater | |
Galwedigaeth | white nationalist |
Yn 2011, pan oedd yn 16 oed, fe gafodd ei gyfeirio at raglen Prevent, cynllun llywodraethol i ymwneud ag eithafwyr.[2] Ymunodd ag adain ieuenctid y British National Party, ond fe gafodd ei siomi gan "anhrefn" (disarray) y blaid honno. Astudiodd athroniaeth ym Mhrifysgol Warwick, ac yno fe geisiodd hyrwyddo'i daliadau gwleidyddol ar y campws. Yn 2012, sefydlwyd National Action gan Alex Davies a Benjamin Raymond, myfyriwr o Brifysgol Essex. Nod y grŵp oedd i greu mudiad ieuenctid Sosialaeth Genedlaethol, neu neo-Natsïaeth, yng ngwledydd Prydain. Mewn gorymdaith National Action yn Lerpwl, datganodd Davies, "We’re like the BNP but more radical".[3] Gadawodd y brifysgol ar ddiwedd blwyddyn gyntaf ei gwrs, yn sgil erthygl yn y Sunday Mirror ym Mehefin 2014 a oedd yn datgelu ei ran yn National Action.[4] Dychwelodd i dde Cymru i weithio mewn canolfan ffôn, ac yn 2018 roedd yn byw yn Abertawe.[2]
Yn 2016, fe anerchodd y Welsh Forum ar bwnc "Saunders Lewis and Militant Welsh Nationalism". Ym Mai 2016, cafodd Davies ffrae â merch o hil cymysg a'i mam yng Nghaerfaddon, ac aeth y fideo yn "firaol".[5] Cafodd National Action ei gwahardd gan yr Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd yn Rhagfyr 2016 am fod yn "sefydliad hiliol, gwrth-Semitaidd a homoffobaidd".[1]
Yn 2021 cyhuddwyd Davies o fod yn aelod o National Action rhwng Rhagfyr 2016 a Medi 2017, wedi i'r grŵp gael ei wahardd.[6] Ar 17 Mai 2022 fe'i cafwyd yn euog o sefydlu grŵp o'r enw NS131 o fewn National Action, wedi i'r mudiad gael ei wahardd,[7] ac ar 7 Mehefin 2022 fe'i dedfrydwyd i garchar am wyth mlynedd a hanner.[8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Far-right group National Action to be banned under terror laws", BBC (12 Rhagfyr 2016). Adalwyd ar 25 Awst 2018.
- ↑ 2.0 2.1 "Founding father of banned white supremacist group National Action identified as being at risk of radicalisation at 16", ITV (25 Gorffennaf 2018). Adalwyd ar 25 Awst 2018.
- ↑ "Exposed: Rise of Hitler-loving National Action group who want to 'ethnically cleanse' the UK", Mirror Online (7 Mehefin 2014). Adalwyd ar 25 Awst 2018.
- ↑ "Fascist leader leaves Warwick", The Boar (18 Mehefin 2014). Adalwyd ar 25 Awst 2018.
- ↑ "Family threatened after Bath racism video goes viral", BBC (12 Mai 2016). Adalwyd ar 25 Awt 2018.
- ↑ (Saesneg) "National Action: Neo-Nazi group co-founder to stand trial", BBC (25 Mehefin 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 25 Mehefin 2021.
- ↑ "Dyn yn euog o ffurfio grŵp cysylltiedig â mudiad eithafol", BBC (17 Mai 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 17 Mai 2022.
- ↑ "Carcharu dyn o Abertawe am barhau yn aelod o fudiad Natsïaidd", BBC (7 Mehefin 2022).